Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu
Mae’r pennaeth a’r corff llywodraethol yn chwilio am unigolyn dawnus ac ymroddgar o ran cefnogi dysgu plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff dynamig ac uchelgeisiol, y gymuned a’r corff llywodraethol er mwyn sicrhau canlyniadau addysg rhagorol ar gyfer disgyblion Ysgol y Fenni.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â staff creadigol a blaengar. Dyma swydd diddorol, ond hynod werth chweil ac rydym yn chwilio am y person iawn i ymuno â ni fel rhan annatod o’n tîm cyfeillgar, ymroddedig ac ysbrydoledig. Bydd y pennaeth, staff a’r corff llywodraethol yn darparu cefnogaeth heb ei hail i’r ymgeisydd a fydd yn dangos ymroddiad o’r safon uchaf i gydweithio’n frwdfrydig gyda nhw, i gynnig y gorau posib i holl blant yr ysgol. Mae’r gallu i gyfarthebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Cyfeirnod Swydd: L23171018
Gradd: SCP Band Cyflog Staff Cymorth 9-13 £26,409 - £28,163 y flwyddyn Amser tymor yn unig (Yn weithredol o 01.04.2018 bydd y cyfrifiad hwn yn ymgorffori hawl pro rata i wyliau banc a gwyliau blynyddol).
Oriau: 32.5 awr yr Wythnos 39 wythnos y flwyddyn
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Y Fenni
Dyddiad Cau: 22/11/2024 12:00 pm
Dros dro: Cytundeb blwyddyn i ddechrau
Gwiriad DBS: Angenrheidiol