Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2
Mae’r Corff Llywodraethu am benodi person ymroddgar, gofalgar a brwdfrydig i ymuno â’n cymuned gyfeillgar a thîm o staff, llywodraethwyr, disgyblion a rhieni ymroddedig, brwdfrydig. Rhaid i chi allu gweithio’n agos gyda holl aelodau’r tîm i ddarparu dilyniant i’r plant yn y dosbarth. Rhaid i chi allu gweithio ym mhob grŵp blwyddyn a darparu cymorth 1:1 a chymorth grŵp i ddisgyblion ag anghenion corfforol, dysgu neu ymddygiadol, mewn amgylchedd prif ffrwd.
Mae Ysgol Gynradd Pembroke wrth galon cymuned Bulwark yng Nghas-gwent. Ein gweledigaeth yw darparu’r profiadau i bawb fod yn ddysgwyr Hapus, Hyderus a Dysgu gyda’n Gilydd. Mae angen i bob disgybl a staff fod yn annibynnol, meddwl yn greadigol a myfyrio ar eu dysgu, er mwyn cyflawni eu gwir botensial a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Cyfeirnod Swydd: L22281043
Gradd: £24,790 - £25.992 pro rata
Oriau: 32.5 awr yr wythos, 39 wythnos y flwyddyn
Lleoliad: Ysgol Gynradd Pembroke
Dyddiad Cau: 28/11/2024 5:00 pm
Dros dro: DROS DRO am flwyddyn
Gwiriad DBS: Gwiriad Manwl o’r Rhestr Gwahardd Gweithio gyda Phlant