Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Cynorthwyydd Addysg

Dymunwn benodi person ymroddedig, gofalgar a brwdfrydig i ddarparu cymorth un-i-un ar gyfer disgybl gydag anghenion dysgu ac ymddygiad, mewn amgylchedd prif ffrwd. Bydd y swydd yn ddibynnol ar i’r disgybl aros mewn ysgol brif ffrwd a’r awdurdod lleol yn cadarnhau’r cyllid. Bydd yr ysgol yn darparu:

  • Ysgol groesawgar, lwyddiannus a gofalgar
  • Plant hapus gyda chymhelliant uchel sy’n mwynhau dysgu mewn amgylchedd heriol, hwyliog a bywiog
  • Hyfforddiant a chefnogaeth
  • Tîm cryf o staff cyfeillgar, ymroddedig a phrofiadol
  • Rhieni, gofalwyr a Chorff Llywodraethu cefnogol

Cyfeirnod Swydd: L23191004

Gradd: Band B SCP 3-5 £24,027 - £24,790 pro rata Yn ystod y tymor yn unig. (Yn weithredol o 01.04.2018 mae’r cyfrifiad hwn wedi cynnwys pro rata hawl gwyliau banc a gwyliau blynyddol).

Oriau: 30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Lleoliad: Ysgol Gynradd Cantref

Dyddiad Cau: 05/12/2024 12:00 pm

Dros dro: PARHAOL (yn ddibynnol ar gyllid gan yr Awdurdod Lleol)

Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)