Mae Sir Fynwy hefyd yn cefnogi ac wedi ymrwymo i strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, sef Cymraeg 2050 sydd yn cyflwyno gweledigaeth hirdymor lle y mae Cymru yn wlad gyda’r iaith Gymraeg yn ffynnu. Mae sefydlu trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy yn elfen ganolog o’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd yn ffocysu ar gynyddu’r nifer o ddisgyblion sydd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2031.
Ar 18fed Ionawr 2023, roedd Cabinet y Cyngor wedi cytuno i ddechrau proses ymgynghori statudol ar y cynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy.
Roedd yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig wedi dod i ben ar 15fed Mai 2023, ac felly, mae’r adroddiad ymgynghori wedi ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad ymgynghori yn cynrychioli cyfrifoldeb y Cyngor yn unol gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion i gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad sydd yn:
- Darparu crynodeb o’r sylwadau / pryderon a fynegwyd gan yr ymgyngoreion.
- Ymateb i’r rhain drwy gynnig eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon gan gynnig rhesymau dros wneud hyn.
- Amlinellu ymateb Estyn i’r ymgynghoriad yn llawn ac ymateb i Estyn drwy gynnig eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon gan gynnig rhesymau dros wneud hyn.
O ran y camau nesaf, bydd Cabinet Sir Fynwy yn cwrdd ar 7fed Mehefin 2023 er mwyn ystyried yr adroddiad ymgynghori; yr argymhellion sydd yn cael eu gwneud a phenderfynu a ydynt am symud ymlaen i’r cam nesaf o’r broses statudol, sydd yn golygu cyhoeddi hysbysiadau statudol.
Mae’n rhaid cyhoeddi’r cynigion a amlinellir uchod nawr drwy hysbysiad statudol. Bydd yr hysbysiad statudol yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol ar ddydd Llun 19 Mehefin 2023.
Cyfarfu Cabinet y Cyngor eto ar y 6ed Medi 2023 i ystyried cynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebu a’r gwrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd. Gwnaethant y penderfyniad terfynol i fwrw ymlaen â sefydlu egin-ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg eginol o’r 1af Medi 2024.