Mae’r ystod eang o wasanaethau a ddarperir gan y cyngor o ddydd i ddydd, ynghyd ag arbenigedd a gwybodaeth leol swyddogion y cyngor, yn golygu ei fod mewn safle da i gefnogi’r ymateb i argyfwng.
Cynllunio at argyfwng gan awdurdod lleol:
- Mae’n gosod cynlluniau a gweithdrefnau mewn lle sy’n galluogi cyngor i ymateb, mor effeithiol â phosib, i argyfwng pe bai un yn digwydd
- Mae’n sicrhau bod y cynlluniau a’r gweithdrefnau hyn yn cydweddu gyda rhai asiantaethau ymateb eraill, megis y gwasnaethau brys, ysbytai, cwmnïau cyfleustodau, asiantaethau gwirfoddol a’r lluoedd arfog.
Gwasanaethau efallai y bydd angen i’r cyngor eu darparu:
- Gofal cymdeithasol a chwnsela
- Canolfannau gofal
- Canolfannau briffio’r cyfryngau
- Canolfannau gwybodaeth gyhoeddus
- Porthi neu ddarparu bwyd mewn argyfwng
- Llety dros dro
- Gwaith ac atgyweiriadau argyfwng
- Cefnogaeth cyfathrebu
- Marwdai dros dro
- Cludiant
- Cydlynu’r cyfnod o adferiad
- Adnoddau
Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol cyfagos, y gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau a mudiadau gwirfoddol. Rydym yn sicrhau bod yna drefniadau i amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd yn Sir Fynwy yn y cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rheolwr Cynllunio at Argyfwng
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Swyddfa’r Post 106
Cil-y-coed
NP26 9AN
Ffôn: 01633 644091
Ffacs: 01633 644614
Rhif argyfwng ar gyfer galwadau y tu allan i oriau gwaith arferol: 0300 123 1055
E-bost: emergencyplanning@monmouthshire.gov.uk
Mae’r gwasanaethau y gallwn eu darparu yn cynnwys:
- Cydweithio ar lunio Trefniadau Ymateb i Argyfwng Mawr Gwent, sydd yn amlinellu’r hyn y mae pob asiantaeth yn gyfrifol amdano yn ystod argyfwng
- Datblygu ac adolygu trefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng gyda’r asiantaethau priodol
- Cynnal cysylltiadau gyda’r asiantaethau eraill hynny a allai fod o gymorth mewn argyfwng
- Ysgrifennu cynlluniau argyfwng i’n cynorthwyo i gyflawni ein rôl mewn argyfwng
- Gweithio gydag asiantaethau gwirfoddol a chwmnïau cyfleustodau er mwyn cydlynu ymatebion
- Ysgrifennu cynlluniau asiantaeth ar y cyd er mwyn ymdopi gyda pheryglon naturiol a dynol
- Digwyddiadau hyfforddi ac ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill
- Sicrhau dibynadwyedd ein rhwydwaith cyfathrebu