Skip to Main Content

Polisi Cynllunio Cymru: Datganiadau Seilwaith Gwyrdd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru (PPW) Rhifyn 12 yn ddiweddar. I fynd i’r afael â’r argyfwng natur cafodd Pennod 6 ‘Lleoedd Unigryw a Naturiol’ ei diwygio gyda newidiadau polisi i:

Seilwaith Gwyrdd

Budd Net  ar gyfer Bioamrywiaeth a’r Dull Fesul Cam

Diogelu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Coed a Choetiroedd

Mae’r gofyniad i bob cais cynllunio a gyflwynir gynnwys ‘Datganiad Seilwaith Gwyrdd’ yn newid allweddol. Mae Pennod 6 PPW12 yn dweud y dylai ‘Datganiad Seilwaith Gwyrdd’ ddisgrifio sut y cafodd seilwaith gwyrdd ei gynnwys yn y cynnig. Dylai’r datganiad fod yn gymesur i faint a natur y datblygiad arfaethedig, er enghraifft ar gyfer datblygiad tebyg i ddatblygiadau gan ddeiliaid tai a mân ddatblygiadau, byddai hyn fel arfer yn ddisgrifiad byr ac ni ddylai fod yn ofyniad beichus ar gyfer ymgeiswyr.

Bydd y datganiad Seilwaith Gwyrdd yn ffordd effeithlon o ddangos deilliannau aml-swyddogaeth cadarnhaol sy’n briodol ar gyfer y safle dan sylw a rhaid eu defnyddio i ddangos sut y gweithredwyd y ‘dull Fesul Cam’.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi darparu gwybodaeth bellach, pro fforma Datganiad Seilwaith Gwyrdd a chanllawiau ar gyfer ymgeiswyr isod sy’n cynnwys:-

  • Pro fforma Datganiad Seilwaith Gwyrdd
  • Canllawiau Datganiad Seilwaith Gwyrdd ar gyfer deiliaid tai a mân ddatblygiadau
  • Dolen i’r llawlyfr a chanllawiau budd Bioamrywiaeth net i ddeiliaid tai
  • Dolenni pellach i Asesiadau Seilwaith Gwyrdd Cyngor Sir Fynwy, Strategaeth Canllawiau Gwyrdd a Chanllawiau Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd i gefnogi ceisiadau mwy

Mae gwybodaeth bellach ynghylch PPW12 ar gael ar y ddolen ddilynol i wefan allanol Llywodraeth Cymru yn  https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2024-02/planning-policy-wales-edition-12_1.pdf             

Pro fforma Seilwaith Gwyrdd

Canllawiau Datganiad Seilwaith Gwyrdd ar gyfer deiliaid tai a mân ddatblygiadau

Dolen i i lawlyfr a chanllawiau budd Bioamrywiaeth net i ddeiliaid tai 

https://www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/biodiversity/biodiversity-and-planning

Dolenni pellach i Asesiadau Seilwaith Gwyrdd Cyngor Sir Fynwy, Strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Chanllawiau Cynllunio Atodol Seilwaith Gwyrdd i gefnogi ceisiadau mwy    

https://www.monlife.co.uk/outdoor/green-infrastructure/strategy-and-guidance