Mae trafodaethau cyn gwneud cais yn wasanaeth dewisol ar gyfer cwsmeriaid a gynlluniwyd i roi’r cyngor gorau ar gamau cynnar eich datblygiad. Nid yw’n ofynnol, ond rydym yn annog trafodaethau cynnar am eich cynigion fel y gallwn roi arweiniad ar ba mor dderbyniol yw eich cais, gan eich helpu i ffurfio’r datblygiad gorau posibl.
Mae dau fath o gyngor cyn gwneud cais, Statudol (neu lefel sylfaenol o wybodaeth) a Phwrpasol, ein gwasanaeth a deilwriwyd ar eich cyfer. Gall ymgeiswyr ddewis pa wasanaeth yr hoffent ei ddefnyddio.
Gan ddibynnu ar y math o wasanaeth a ddewiswch, byddwch yn cael cyfarfod rhithiol neu gyfarfod wyneb i wyneb gyda Swyddog Cynllunio a chael mynediad i arbenigwyr eraill e.e. peirianwyr priffordd. Bydd gennych un pwynt cyswllt ar gyfer y broses gyfan a chewch adroddiad ysgrifenedig ffurfiol yn rhoi manylion barn y swyddog, awgrymiadau i wella’r cynllun ac arweiniad ar symud ymlaen gyda’r cais.
Mae mwy o wybodaeth isod am y gwahanol fathau o wasanaeth, costau pob un a sut i wneud cais.