Strategaeth Trafnidiaeth Leol Sir Fynwy
Cafodd strategaeth Trafnidiaeth Leol newydd Sir Fynwy ei mabwysiadu ym mis Mai 2024
Mae’r Strategaeth yn gynllun gwirfoddol. Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol gynhyrchu Cynllun Trafnidiaeth Lleol statudol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ac i’w adolygu’n barhaus. Y tro diwethaf i Sir Fynwy fabwysiadu Cynllun Trafnidiaeth Lleol statudol oedd 2015. (Cymeradwywyd hyn gan Weinidogion Cymru ym mis Mai 2015). Yn 2023 penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid cynnal cylch nesaf y Cynlluniau ar sail ranbarthol, hynny yw y byddai angen i Gydbwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd newydd gynhyrchu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn 2024/25. Bydd Strategaeth Trafnidiaeth Leol wirfoddol Sir Fynwy yn fewnbwn allweddol yn y cynllun hwnnw.