Skip to Main Content

Mae llyfrgelloedd Sir Fynwy wedi lansio menter “Noddi Llyfr” i wella ymgysylltiad cymunedol. Gall trigolion nawr noddi llyfrau yn llyfrgelloedd Sir Fynwy drwy ein partneriaeth â Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed.

Mae’r cynllun newydd yn galluogi pobl leol i gyfrannu’n uniongyrchol i’w llyfrgell drwy noddi teitlau newydd, gan sicrhau bod y silffoedd yn parhau’n fywiog ac yn llawn stoc ar gyfer holl aelodau’r gymuned.

Bydd y sawl sy’n noddi yn derbyn cydnabyddiaeth am eu haelioni gyda phlât llyfr a thystysgrif o werthfawrogiad am bob llyfr noddedig. Mae hyn yn rhoi cyfle i unigolion anrhydeddu cof ffrind neu anwyliaid wrth iddynt gyfrannu at gasgliad y llyfrgell. Croesewir rhoddion gan sefydliadau yn fawr hefyd.

Mae amryw o llyfrau ar gael trwy’r cynllun Noddi Llyfr yn Llyfrgell Cil-y-coed

Gall noddwyr sydd â diddordeb gymryd rhan drwy lawrlwytho’r ffurflen o’n gwefan a’i chyflwyno ochr yn ochr â thaliad arian parod neu siec yn daladwy i Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed yn eich llyfrgell leol yn Sir Fynwy. Bydd eich cyfraniadau yn cefnogi’r gwaith o brynu llyfrau ar gyfer ein llyfrgelloedd yn uniongyrchol, er budd oedolion a phlant.

Sylwch, er y byddwn yn ymdrechu i osod llyfrau newydd mewn llyfrgelloedd lleol, nid oes sicrwydd y bydd rhoddion yn cael eu dyrannu i gangen arferol y rhoddwr.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r fenter hon yn caniatáu i Lyfrgelloedd Sir Fynwy ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. 

Diolch i bawb sydd wedi noddi llyfr yn barod ac i’r rhai fydd yn ein noddi yn y dyfodol.

“Mae ein cydweithrediad â grwpiau cymunedol lleol, megis Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed, yn dangos sut, fel Cyngor, ein bod am weithio gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch iddynt am eu hymroddiad i hyrwyddo’r gwasanaethau a helpu gyda’r rhaglen anhygoel hon.

I nodi’r fenter arwyddocaol hon, mynychodd aelodau’r gymuned a chynrychiolwyr etholedig lleol ddigwyddiad arbennig ddydd Llun, 18fed Tachwedd, lle buom yn dathlu llwyddiant yr ymgyrch “Noddi Llyfr” ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Fynwy.

Lawrlwythwch Ffurflen Noddi Llyfr yam – https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2024/11/4-1.png