Skip to Main Content

Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn ganolog i bopeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy. 

Anelwn ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a busnesau lleol , i’n helpu i gyflawni hyn gosodwn amcanion a thargedau, gan roi ystyriaeth i’r pethau sy’n bwysig i bobl. Rydym hefyd yn aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Fynwy lle gweithiwn gyda phartneriaid sector cyhoeddus i wella llesiant yn y sir. 

Y cyhoeddiad mwyaf diweddar:  

Mae ein hadroddiad hunanasesu blynyddol yn darparu asesiad o ba mor dda yr ydym yn cyflawni’r amcanion yr ydym wedi’u gosod yn ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.  Mae ein hadroddiad hunanasesu diweddaraf yn edrych yn ôl ar berfformiad yn ystod 2023/24, ac yn gofyn y cwestiynau, pa mor dda ydyn ni’n gwneud; sut rydyn ni’n gwybod hynny; a beth a sut allwn ni wneud yn well? Mae’r asesiad yn edrych ar chwe amcan lles y Cyngor, a’r datganiadau ‘yr hyn yr ydym am ei gyflawni’ sydd oddi tanynt. Mae’r adroddiad hefyd yn asesu effeithiolrwydd ein ‘swyddogaethau galluogi’, h.y. y meysydd sy’n cefnogi gwasanaethau’r cyngor i fodloni gofynion newidiol a sicrhau eu bod yn gynaliadwy. 

Darllenwch yr adroddiad hunanasesu 2023/2024 yma:

Mae’r adroddiad hunanasesu blaenorol i’w weld yma:

 Adroddiad Hunanasesu 2022/23

Adroddiad Hunanasesu 2022/23 – Crynodeb

Edrych i’r Dyfodol 

Cyhoeddir cynllun cymunedol a chorfforaethol bob pum mlynedd. Mae hyn yn amlinellu uchelgeisiau a gweithredoedd y Cyngor dros y pum mlynedd ganlynol. Caiff y cynllun hwn ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu yn dal i fod yn berthnasol yn yr hinsawdd bresennol. Y cyhoeddiad mwyaf diweddar: 

Cynllun Busnes Corforaethol – Adnewyddiad Canol Tymor 2022- 28

Adolygu Perfformiad 

Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom gyflawni’r amcanion a osododd y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol. Y cyhoeddiad mwyaf diweddar: 

Adroddiad Hunanasesu 2021/22

Adolygiadau blaenorol o Berfformiad: 

Cynllun Busnes Corforaethol – Adnewyddiad Canol Tymor 2017 – 2022 

Cynllun Corfforaethol Mesurau Perfformiad 

Ffeithlun Cefnogi Sir Fynwy drwy’r Pandemig Coronafeirws 

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2020/21 

Crynodeb Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cynllun Corfforaethol 

Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol 2019/20 

Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2018/19 

Amcanion a Datganiad Llesiant – Adroddiad Blynyddol 2017/18 

Sut wnaethon ni berfformio 2016/17 

Mesurau Perfformiad: 

Mae’r cyngor yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau. Rydym yn monitro pa mor dda y perfformiwn drwy gydol y flwyddyn wrth i ni anelu i osod safonau a, lle mae adnoddau’n caniatáu hynny, sicrhau gwelliant. Mae ein pwyllgorau dethol yn craffu ar berfformiad amrywiaeth o wasanaethau ar hyd y flwyddyn ac mae’n cynlluniau’n cynnwys nifer fawr o fesurau a ddefnyddiwn i fonitro perfformiad. 

Adolygiadau Perfformiad 

Rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adolygu ein perfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n cynnwys gwerthusiad o ba mor dda y gwnaethom wrth gyflawni’r amcanion a osodwyd. 

Cysylltu gyda ni 

Mae gennym ddiddordeb bob amser ym marn pobl am sut ydym yn gwneud. Os dymunwch rannu eich barn am ein perfformiad, gallwch anfon e-bost atom yn defnyddio improvement@monmouthshire.gov.uk