Mae cynllun cymorth hunanynysu Covid-19 yn dod i ben ar 30 Mehefin.
Os gwnaethoch brofi’n bositif ac wedi gorfod hunanynysu ar neu cyn 30 Mehefin, a’ch bod yn gymwys i gael cymorth, mae gennych 21 diwrnod i wneud hawliad ar ôl eich diwrnod olaf o hunanynysu.
Crynodeb
Mae’r cynllun cymorth hunanynysu wedi’i greu ar gyfer pobl ar incwm isel, nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac sy’n gorfod hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sy’n hunanynysu.
Bydd taliadau’n cael eu trethu, ond maent wedi’u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ni ddylent effeithio ar eich budd-daliadau
Pwy sydd yn gymwys
Er mwyn cael y taliad mae’n rhaid eich bod chi neu’ch plentyn wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu ar 23 Hydref 2020 neu wedi hynny. Ni fyddwch chi’n cael y taliad os dywedwyd wrth eich plentyn i hunanynysu drwy ap COVID-19 y GIG.
Rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- eich bod wedi profi’n bositif am COVID-19 neu bod gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru neu ap COVID-19 y GIG wedi cysylltu â chi oherwydd y cawsoch eich nodi fel person cyswllt a dywedwyd yn ffurfiol wrthych i hunanynysu
- bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol, addysg bellach neu ofal plant (hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 8, neu hyd at 25 oed os oes ganddo anghenion cymhleth) a’i fod wedi cael cais ffurfiol i hunanynysu gan naill ai:
- gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- ysgol eich plentyn
- lleoliad addysg bellach eich plentyn
- lleoliad gofal plant eich plentyn (crèche, meithrinfa)
Rhaid i chi hefyd fod:
- yn gweithio (yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig)
- yn methu gweithio gartref ac yn colli enillion oherwydd bod rhaid ichi hunanynysu (dim ond un rhiant neu ofalwr, os yw’ch plentyn wedi cael cyngor i hunanynysu)
- yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn
Sut i wneud cais
Bydd taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref 2020.
Os ydych yn hunanynysu oherwydd eich bod wedi eich nodi fel person cyswllt gan ap COVID-19, gallwch ôl-ddyddio eich taliad i 1 Chwefror 2021.
Ni fydd eich cais yn cael ei dderbyn os cawsoch chi neu’ch plentyn gyngor i hunanynysu cyn 23 Hydref 2020, hyd yn oed oes oedd y cyfnod o hunanynysu yn parhau ar ôl 23 Hydref 2020.
Gallwch wneud cais hyd at 21diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod hunanynysu
Gwneud cais ar ran rhywun arall
Gallwch wneud cais ar ran rhywun arall, ond rhaid i’r taliad gael ei wneud i gyfrif banc yr unigolyn yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer. Er enghraifft, os gwneir cais ar ran rhiant, caiff yr arian ei dalu i gyfrif banc y rhiant.
Beth fydd ei angen
Cadarnhad o’r dyddiad y cawsoch chi neu’ch plentyn gyngor i hunanynysu gan un o’r rhain:
- gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru
- ysgol eich plentyn
- lleoliad addysg bellach eich plentyn
- lleoliad gofal plant eich plentyn (crèche, meithrinfa)
Tystiolaeth eich bod yn cael un o’r budd-daliadau a restrwyd yn yr adran ar bwy sy’n gymwys.
Os ydych yn gyflogedig, byddwch hefyd angen:
- eich cyfriflen banc ddiweddaraf (o fewn y 2 fis diwethaf yn dangos tystiolaeth o’ch enillion)
- eich slip cyflog diweddaraf (o fewn y 2 fis diwethaf yn dangos tystiolaeth o’ch enillion)
- enw’r banc, cod didoli a rhif cyfrif (gwneir yr holl daliadau drwy drosglwyddiad banc BACS yn unig)
Os ydych yn hunangyflogedig byddwch hefyd angen:
- eich cyfriflen banc ddiweddaraf ar gyfer eich cyfrif busnes (o fewn y 2 fis diwethaf)
- eich cyfrifon diweddaraf neu hunanasesiad diweddaraf
- enw’r banc, cod didoli a rhif cyfrif (gwneir yr holl daliadau drwy drosglwyddiad banc BACS yn unig)
Wedi i chi wneud cais
Bydd eich manylion yn cael eu gwirio yn erbyn cofrestr Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru. Diben hyn yw gwirio eich bod wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol i hunanynysu.
Os nad ydych ar y gofrestr, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Byddwch yn cael e-bost neu lythyr i ddweud a yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu beidio.
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost o fewn 3 diwrnod gwaith. Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi gwybod i chi pa bryd y cewch y taliad.
Os na fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo
Bydd eich cais yn cael ei wrthod os nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Ni fyddwch yn cael apelio na gofyn am adolygiad o’ch cais.
Efallai y gall eich awdurdod lleol eich helpu os oedd gwybodaeth wedi’i hepgor o’ch cais
.
Taliadau dewisol
Os ydych yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf ond ddim yn cael budd-daliadau, gallech wneud cais am daliad dewisol gan eich awdurdod lleol. Gwneir taliadau dewisol mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Er enghraifft, os:
- oes gennych statws mewnfudo dros dro ac amod sy’n golygu na allwch wneud cais am fudd-daliadau (a elwir yn ‘dim hawl i gyllid cyhoeddus’ (NRPF)
- mae incwm eich aelwyd yn llai na £350 yr wythnos
- mae gennych lai na £6,000 o gynilo
Os oes rhaid i fwy nag un person yn eich aelwyd hunanynysu
Os gofynnir i chi ac eraill yn eich aelwyd i hunanynysu, a’ch bod chi’n gymwys, caiff pob person wneud cais am y taliad.
Os dywedir wrth eich plentyn am hunanynysu, dim ond un taliad ar gyfer y cartref y gallwch ei hawlio ar adeg y cyfnod hunanynysu.
Os oes angen i chi hunanynysu fwy nag unwaith
Gan efallai y gofynnir i chi hunanynysu fwy nag unwaith gallwch dderbyn mwyafswm o 3 thaliad:
- 1 taliad am brawf COVID-19 positif
- 2 daliad os cysylltir â chi fel cyswllt agos neu fel rhiant neu ofalwr plant sy’n hunanynysu
Rhaid i chi fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cais. Rhaid i’r cyfnodau hunanynysu beidio â gorgyffwrdd.
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at: benefits@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644