Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu cynllun benthyca £1.25m i helpu adfywio safleoedd ac adeiladau segur ac sy’n cael eu tanddefnyddio yng nghanol tref y Fenni.
Gyda chyllid o raglen ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ Llywodraeth Cymru, bydd y cynllun yn rhoi benthyciadau di-log i berchnogion i adnewyddu, trawsnewid neu ddatblygu safleoedd ac adeiladau segur, gwag ac sy’n cael eu tanddefnyddio yng nghanol y dref.
Mae benthyciadau ar gael i brosiectau cymwys dros gyfnod o bum mlynedd. Ar ôl eu had-dalu, gellir ailddefnyddio’r arian ar gyfer benthyciadau newydd.
Mae ceisiadau ar gyfer cyllid dechreuol ar gael i brosiectau a all gwblhau erbyn 30 Medi 2016. Bydd ffi gweinyddol un-tro o 5%.
I gael mwy o wybodaeth lawrlwythwch y dogfennau islaw neu gysylltu â Stephen Griffiths, Swyddog Strategaeth a Pholisi – stephengriffiths@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01633 644455 i gael mwy o fanylion am sut i wneud cais.