Skip to Main Content

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn dymuno parhau yn ein cartrefi, gan fyw mor annibynnol ag y bo modd cyhyd ag y gallwn.

Mae nifer o wasanaethau i’ch helpu i wneud hyn, gan gynnwys: addasu cartrefi, offer yn y cartref a chymhorthion electronig. Gallai cyfnod byr o ailalluogi eich helpu i adennill eich hyder a’r gallu i gyflawni tasgau byw o ddydd i ddydd. Gall ein therapyddion galwedigaethol eich helpu chi a’ch gofalwr hefyd gyda chyngor.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen cymorth yn y cartref ar rai ohonom gan rywun a all helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd. Gelwir hyn weithiau yn ofal cartref.

Pa gymorth yn y cartref sy’n cael ei gynnig?

Mae’r asiantaethau hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau fel gofal personol, glanhau’r tŷ, siopa, a gwasanaethau eistedd. Nid yw pob asiantaeth yn darparu’r holl wasanaethau ac mae taliadau yn amrywio rhwng asiantaethau. Efallai y bydd rhai yn codi am bob awr a gall rhai fod yn fodlon darparu gwasanaeth am lai nag awr. Efallai hefyd y bydd treuliau teithio.

Mae anghenion pawb yn wahanol: mae angen cymorth bob dydd ar rai gydag ystod o dasgau fel ymolchi, gwisgo, mynd i’r toiled, bwyta, ac ati. Efallai na fydd angen cymorth ar eraill heblaw am gydag un neu ddau dasg unwaith y dydd, neu hyd yn oed yn llai aml.

Er mwyn deall eich anghenion a’r hyn yr ydych am ei gyflawni, bydd angen i ni gynnal Asesiad Gofal Cymdeithasol. Os ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau gofal, bydd yr asesiad yn ein galluogi i lunio Cynllun Gofal. Bydd hwn yn disgrifio sut y gellir bodloni eich anghenion a chyflawni eich amcanion, yn ogystal â faint bydd hyn yn ei gostio. Os nad ydych yn gymwys, byddwn yn eich cynghori ar y math o gymorth efallai y bydd angen i chi ei gael ac ar ba sefydliadau sydd â’r modd i’w ddarparu.

Os mai cymorth yn y cartref yw’r ffordd orau i ddiwallu eich anghenion, yna bydd eich Cynllun Gofal yn nodi beth mae hyn yn ei olygu. Byddwn wedyn yn cael y gwasnaethau angenrheidiol gan ein Providers.doc ar eich rhan.

Costau

Nid yw pawb yn gymwys i dderbyn cymorth gennym; yn syml, byddai hyn yn costio gormod o arian. I benderfynu pwy allwn ni eu helpu, byddwn yn edrych ar eich sefyllfa ariannol a’ch lefel o angen. Os ydych yn gymwys, byddwn yn rhoi gwybod faint o arian y byddwn yn gofyn i chi ei gyfrannu tuag at eich gofal. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud rhywfath o gyfraniad, llawer ohonynt trwy gyllideb bersonol.

Dolenni allanol i: