Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer trigolion a busnesau y mae llifogydd wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt ers mis Medi 2020. Ceir manylion am sut i gael gafael ar y cyllid hwn isod, ynghyd â gwybodaeth am wasanaethau eraill a allai fod o gymorth.
Cyllid Llywodraeth Cymru
Cymorth ariannol i drigolion Sir Fynwy
Os yw eich cartref wedi dioddef llifogydd ers 1af Medi 2020 yn ystod lefelau rhybudd 3 a 4 o gyfyngiadau cloi’r Coronafeirws, gallwch gael hyd at £1,000 o help.
Mae Cynghorau Lleol yn gweinyddu’r cymorth hwn ar ran Llywodraeth Cymru. I wneud cais am y cyllid hwn bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais fer gan ddefnyddio’r ddolen hon: Ffurflen gais am gymorth ariannol llifogydd neu ffoniwch 01633 644644.
I fod yn gymwys, rhaid i’r eiddo fod yn brif breswylfa i chi ac mae’n rhaid bod eich prif le byw mewnol wedi dioddef o’r llifogydd. Nid yw eiddo gwag nac ail gartrefi yn gymwys i gael y cymorth ariannol hwn.
I wneud cais bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
· Enw Llawn
· Cyfeiriad yr eiddo yr effeithiwyd arno
· Rhif Cyfeirnod y Dreth Gyngor
· Manylion cyfrif banc y bydd angen gwneud y taliad iddo
· Manylion yswiriant cartref lle bo hynny’n berthnasol (enw’r cwmni a rhif polisi)
Er mwyn cwblhau a phrosesu eich cais bydd angen i ni hefyd gadarnhau bod eich eiddo wedi dioddef llifogydd yn erbyn ein cofnodion.
Cymorth ariannol i fusnesau Sir Fynwy
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gymorth i fusnesau y mae llifogydd yn effeithio arnynt yma
Gostyngiadau mewn Ardrethi
Os yw llifogydd wedi effeithio arnoch, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad, neu eithriad ar eich Treth Gyngor neu Ardrethi Busnes.
Ar gyfer aelwydydd y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, efallai y bydd cynlluniau talu estynedig ar gael. Gall eithriadau a disgowntiau fod ar gael hefyd yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Enghreifftiau o eithriadau posibl sydd ar gael yw – 6 mis o eithriad os yw’r eiddo wedi’i ddodrefnu’n sylweddol a heb ei feddiannu neu eithriad o hyd at 12 mis os oes angen atgyweiriadau strwythurol.
Cysylltwch â’r tîm Refeniw ar 01633 644630 neu e-bostiwch: counciltax@monmouthshire.gov.uk
Cymorth Pellach
Ydych chi’n gwybod â phwy i gysylltu os yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi? Mae rhestr allweddol o gysylltiadau ar gyfer elusennau a sefydliadau cymorth ar gael isod:
Mae Safonau Masnach Sir Fynwy yn cynnig y cyngor canlynol ar sut y gall pobl osgoi cael eu twyllo gan fasnachwyr twyllodrus ar garreg y drws:
· Os bydd masnachwr yn galw heibio peidiwch â chytuno i atgyweirio’r tŷ yn y fan a’r lle, neu lofnodi unrhyw beth yn y fan a’r lle.
· Byddwch yn wyliadwrus o gynigion arbennig neu rybuddion nad yw eich tŷ yn ddiogel.
· Peidiwch â gwneud penderfyniadau heb ystyried yn llawn. Cymerwch amser i siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt cyn i chi wneud penderfyniad.
· Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch Consumer Direct ar 0808 223 1133
Mae Banciau Bwyd ac Oergelloedd Cymunedol ar gael mewn llawer o drefi ledled y sir. Mae manylion ar gael oddi wrth ein tîm Partneriaethau Cymunedol ar 10633 644696.
Fforwm Llifogydd Cenedlaethol Nationalfloodforum.org.uk
Cymorth Tai Sir Fynwy Housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk
Tîm Dewisiadau Tai
Os ydych wedi gorfod gadael eich cartref tra’i fod yn cael ei drwsio yn dilyn llifogydd, a bod angen help arnoch i ddod o hyd i lety, cysylltwch â mcchousingoptions@monmouthshire.gov.uk
Bydd yr Adran Budd-daliadau’r Dreth Gyngor yn hoffi gwybod am unrhyw un y mae’r llifogydd wedi effeithio ar ei eiddo. Bydd hyn yn cynorthwyo’r tîm Treth Gyngor i brosesu ceisiadau gostyngiad dewisol.
Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig cyngor diduedd am ddim ar atgyweiriadau a bydd yn helpu pobl i gael amcangyfrifon a dewis contractwr ag enw da – 01495 745910 enquiries@crmon.co.uk
Amnewid Offer Ynni Caru’ch Cartref
Cynllun amnewid offer. Mae gan bob un o’r offer gost o £75, sy’n cynnwys dosbarthu atoch a gosod. Rhaid i chi naill ai fod ar fudd-daliadau prawf modd neu fod ar incwm isel fod â chyflwr iechyd difrifol. Gallwch wneud cais drwy’r wefan: www.applyforheart.org.uk
Cronfeydd Buddiolwyr
Os ydych wedi gweithio yn unrhyw un o’r diwydiannau canlynol, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth ariannol:
Lletygarwch – Yr Ymddiriedolaeth Weithredu Lletygarwch – www.hospitalityactiontrust.org.uk
Manwerthu – Yr Ymddiriedolaeth Manwerthu – Rhif Ffôn 0808 8010808 helpline@retailtrust.org.uk Garddwriaeth – Elusen Perennial – Rhif Ffôn 0800 093 8510 info@perennial.org.uk
Milwrol – Y Lleng Prydeinig Brenhinol – Rhif Ffôn 0300 123 9110
Adeiladwyr/llafurwyr – B&CE Rhif Ffôn 0300 2000 600 charitabletrust@bandce.co.uk
Adeiladwyr/llafurwyr – Elusen Goleudy Rhif Ffôn 0345 609 1956 info@lighthouseclub.org
Trydanwyr – Elusen y Diwydiannau Trydanol Rhif Ffôn 0800 652 1618 support@electricalcharity.org.uk
Nyrsio – Ymddiriedolaeth Nyrsys Cavell – Rhif Ffôn 01527 595999 admin@cavellnursestrust.org.uk Gweithwyr gofal – careworkerscharity.org.uk
Ffermwyr – RABI Rhif Ffôn 01865 724931
Gweision Sifil – Rhif Ffôn 0800 056 2424
Cyfreithwyr – Elusen y Cyfreithwyr Rhif Ffôn 020 8675 6440 Addysgu – enquiries@teachingstafftrust.org.uk Rhif Ffôn 01322 293 822
Dodrefn ail-law: –
Ailgylchu Cymunedol ‘Homemakers’ y Fenni, Y Capel, Hen Dŷ Gwaith, Union Rd West, Y Fenni NP7 7RL. Rhif Ffôn: 01873 857618
Ymddiriedolaeth Ravenhouse, 276-278 Heol Cromwell, Casnewydd. Yn darparu bwyd a dodrefn i bobl mewn angen ledled hen sir Gwent a thu hwnt – Rhif Ffôn 01633 762999
2me2u – Siop ddodrefn ail-law, 33 Stryd Frogmore, Y Fenni NP7 5AL Rhif Ffôn 07772 296666
Yswirio’ch Eiddo
At ddibenion y dyfodol, mae gan y wefan ganlynol wybodaeth am yswirio’ch eiddo a allai fod mewn perygl o lifogydd: Adnoddau Llifogydd
Ymddiriedolaeth Ravenhouse
Byddant yn hapus i helpu gydag eitemau fel dillad gwely ond bydd angen rhoi gwybod iddynt beth sydd ei angen ac ymhle.
Benthyciadau Gwella Tai
Mae benthyciadau di-log ar gael (er bod ffi yn daladwy) i berchnogion tai er mwyn gwneud gwaith atgyweirio a fydd yn gwneud eu heiddo’n gynnes, yn saff ac yn ddiogel. Cysylltwch â Thîm Tai a Chymunedau’r Cyngor ar 01633 644455.