Bob blwyddyn rydym yn wynebu’r dasg anodd o osod cyllideb na fydd yn rhoi pwysau pellach ar drethdalwyr ac na fydd yn cael effaith negyddol chwaith ar wasanaethau.
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i reoli arian cyhoeddus yn ddifrifol iawn. Rydym yn gweithio gyda chynghorwyr a chydweithwyr mewn adrannau eraill i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn dros y gwasanaethau a ddarperir i bobl Sir Fynwy.
Rydym yn ariannu’r canlynol:
- Addysg: rydym yn addysgu 11,940 o ddisgyblion mewn 39 o ysgolion
- Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion: rydym yn gweithio gydag oddeutu 2,000 o bobl yn Sir Fynwy
- Priffyrdd, traffig a datblygu: rydym yn cynnal 1,600 km o ffyrdd, 850 o bontydd, 11,000 o oleuadau stryd, a 35 o feysydd parcio gyda 3,400 o lefydd parcio
- Dysgu cymunedol a hamdden: rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hamdden, diwylliannol a dysgu drwy chwe llyfrgell, un theatr, pedair amgueddfa, pedair canolfan hamdden, naw safle dysgu oedolion, deuddeg clwb ieuenctid, a nifer o barciau a mannau agored
- Glanhau a rheoli gwastraff: bob wythnos, rydym yn casglu gwastraff y cartref o ddrws i ddrws. Mae ein fflyd glanhau strydoedd yn cynnwys tri pheiriant ysgubo mawr a phum peiriant ysgubo bach, yn ogystal â chwe pheiriant ysgubo a weithredir â llaw. Rydym hefyd yn gweithredu pedwar criw sy’n ymateb i sbwriel. Rydym ar y trywydd iawn i ragori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o ran rheoli gwastraff (40%) yn 2009/10
- Gwasanaethau cymdeithasol i blant: rydym yn delio â thua 550 o bobl bob blwyddyn ac yn derbyn dros 2,000 o gontractau
- Refeniw a budd-daliadau: mae gwasanaethau casglu trethi, budd-daliadau, technoleg ac archwilio yn diwallu anghenion o oddeutu 9,500 o hawlwyr budd-daliadau, 39,200 o dalwyr y dreth gyngor a 2,900 o dalwyr ardrethi busnes
- Y Gwasanaeth Tân: gydag awdurdodau lleol eraill yn Ne Cymru, rydym yn ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Rydym hefyd yn cyfrannu at gyllid y Gwasanaeth Crwneriaid, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a byrddau draenio Gwy Isaf a Gwynllŵg ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd
Gwybodaeth fanwl
- Llyfrau cyllideb
- Cyfrifon blynyddol
- Archwiliad
- Data gwariant y cyngor
- Adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf
Mae gan Gyngor Sir Fynwy bartneriaeth rhannu gwasanaeth (SRS) ar gyfer ei wasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, yn gweithredu dan femorandwm dealltwriaeth. Caiff y gwasanaeth ei rannu gan Heddlu Gwent, Sir Fynwy, Torfaen, Casnewydd a Blaenau Gwent ac mae pob partner yn cyfrannu at y gwasanaeth craiddl fel y’i disgrifir ar wefan SRS uchod. Fel partneriaeth, ni chaiff yr SRS ei gyfrif fel contractwr allanol ond fel uniad o’r gweithwyr cyflogedig a seilwaith a arferai fod o fewn y gwahanol sefydliadau partner.