Cynigion y Gyllideb ar gyfer 2024-2025
Edrychwch ar y dogfennau ar y dolenni isod i ddarllen yr holl gynigion ar gyfer cyllideb 2024-2025, o’r 9fed Ionawr 2024.
Bydd arolwg ar gael drwy’r dudalen hon o’r 18fed Ionawr (9am) tan 15fed Chwefror 2024 (5pm) i gofnodi eich adborth, felly cymerwch amser i’w gwblhau.
Dweud eich dweud – ffyrdd o gymryd rhan:
Digwyddiadau Ymgysylltu y Gyllideb 2024-2025
Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer ein Digwyddiad Ymgynghori wyneb yn wyneb 2024-2025 y Gyllideb yn Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Wysg, NP15 1GA
Rhaid archebu ar gyfer y sesiynau wyneb yn wyneb 48 awr o flaen llaw i sicrhau lle
Cynhelir sesiynau ar:
Dydd Mawrth, 6 Chwefror am 18:00 – 19:30
Dydd Iau, 8 Chwefror am 10:00 – 11:30
Digwyddiadau Ymgysylltu Ar-lein
Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer un o’r sesiynau Ymgysylltu â’r Gyllideb ar-lein drwy Microsoft Teams. Gallwch ymuno â’r sesiynau hyn ar unrhyw ddyfais, dim ond cofrestru heddiw a byddwn yn anfon dolen atoch i ymuno.
Peidiwch boeni os nac oes gennych gwestiwn ar hyn o bryd, bydd cyfle i chi codi cwestiwn yn ystod y sesiwn.
Gallwch ddewis ymuno â ni ar unrhyw un o’r 3 sesiwn:
Dydd Iau, 25 Ionawr, 18:00 – 19:30
Dydd Mercher, 31 Ionawr, 10:00 – 11:30
Dydd Iau, 1 Chwefror, 18:00 – 19:30
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r sesiynau hyn, byddant yn cael eu recordio ac ar gael i’w gwylio ar y dudalen hon.
Cyfryngau, Newyddion a Datganiadau i’r Wasg:
- Cyllideb Cyngor Sir Fynwy wedi ei gosod ar gyfer 2024-25
- Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwrando ar drigolion a rhanddeiliaid ar Gynigion Cyllideb Ddrafft 2024-25
- Mae Cyngor Sir Fynwy yn rhannu cynigion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod
- Mae Llywodraeth Cymru yn gosod cyllid craidd dros dro ar gyfer Cyngor Sir Fynwy
- Bydd Cyngor Sir Fynwy yn rheoli’r ansicrwydd o ran cyllid yn y dyfodol