Cludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae costau cludiant disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn cynyddu mewn addysg orfodol a hefyd ar gyfer y rhai sy’n parhau mewn addysg ôl-16.
Cynigiwn adolygu’r trefniadau cludiant presennol i weld os y gellir datblygu model mwy darbodus.
Adolygu asesiadau risg presennol ar gyfer disgyblion i weld os gellir gwneud arbedion o rannu cludiant yn hytrach na chludo mewn tacsis unigol.
Byddai buddsoddi yn y pwysau hyn yn galluogi disgyblion i barhau i gael mynediad i leoliadau addysg.
Uned Cludiant Teithwyr – Trawsnewid Gwybodaeth
Dalgylchoedd ysgolion Mae newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion wedi creu pwysau cynyddol ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac mae costaucynnal fflyd bysus a bysus mini y cyngor yn cynyddu. Mae gwaith gwella’n mynd rhagddo i sicrhau fod y llwybrau y mae ein Huned Cludiant Teithwyr yn eu darparu yn effeithiol, fforddiadwy a hygyrch. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y llwybrau gorau oll ar gyfer ein cerbydau a chynyddu gweithgareddau marchnata i gynyddu incwm i’r eithaf.
Grass Routes – mae hyn yn ased i’n cymunedau gwledig, fodd bynnag rydym yn cynnig newid y ffordd y gwneir taliad am deithio gyda’r nod o wneud taliadau ar-lein.