Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn lansio ei ddrafft gynigion ar gyfer y gyllideb ddydd Gwener 20 Rhagfyr. Cafodd y cynigion eu llunio mewn amgylchiadau heriol lle mae’r cyngor yn dal i wynebu pwysau parhaus a sylweddol yn ariannol, demograffig ac o ran galw. Mae’r cyngor yn wynebu £9.7 miliwn o gostau newydd anorfod sydd angen eu cynnwys yng nghyllideb 2020/21.

Mae cynigion y ddrafft gyllideb yn anelu i gefnogi blaenoriaethau’r cyngor. Yn benodol, maent yn ceisio cydnabod yn llawn yr holl bwysau gwariant ar gyflogau a chysylltiedig â phensiwn yn ein system addysg a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’r gyllideb ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae cynigion y gyllideb yn gweld parhad o barodrwydd y cyngor i herio pob gwasanaeth i wella, yn hytrach na gweld cau gwasanaethau sy’n bwysig i ddinasyddion. Mae cydnabyddiaeth nad yw pethau sy’n cau byth yn dychwelyd ac mae’r cyngor yn bendant o’r farn ei bod yn well cwtogi na dileu’n llwyr.

Nid yw byth yn boblogaidd codi tâl am wasanaethau ond y realaeth yw fod angen i’r cyngor wneud hynny. Mae cynigion i godi ffioedd mewn nifer o feysydd yn unol â chwyddiant.

Nid yw cyllid Llywodraeth Cymru yn ddigonol i ddiwallu’r pwysau sylweddol a wynebir, gyda Sir Fynwy dan anfantais oherwydd mai ef yw’r cyngor sy’n derbyn y cyllid gwaethaf yng Nghymru unwaith eto. Oherwydd hynny bydd yn rhaid i drethdalwyr y cyngor orfod ysgwyddo cyfran uwch o gyfanswm cost gwasanaethau. Mae’r cynigion cyllideb amlinellol hyn yn tybio cynnydd o 4.95% yn y dreth gyngor ar gyfer 2020/21 a 3.95% ar gyfer blynyddoedd dilynol.

Mae mwy o wybodaeth ar y setliad cyllid siomedig gan Lywodraeth Cymru, ein datganiad i’r wasg ac ymateb ar gael yma:

https://www.monmouthshire.gov.uk/2019/12/extreme-disappointment-as-council-sees-the-worst-budget-settlement-in-wales/

Mewn blynyddoedd blaenorol, bu gostyngiad sylweddol mewn gwasanaethau rheng flaen tebyg i wastraff a phriffyrdd. Cwmpas cyfyngedig iawn sydd i hyn barhau ac eleni gall fod angen i ni edrych ar gyllideb ysgolion i wneud cyfraniad bach hefyd er y bydd cyfanswm cyllid ysgolion yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn. Byddai’n well gennym beidio gwneud hyn a disgwyliwn iddo fod yn faes lle derbyniwn adborth sylweddol.

Mae rhestr gynhwysfawr o’r cynigion ar gael ar y wefan: 

Bydd nifer o gyfleoedd ymgysylltu ar gael i roi cyfle i breswylwyr glywed am y drafft gynigion a chyd-destun ehangach y gyllideb ar gyfer y cyngor a galluogi preswylwyr i rannu eu sylwadau hefyd.

Cynhelir cyfarfodydd wyneb-i-wyneb gyda grwpiau yn cynnwys grwpiau anabledd, pobl hŷn a phobl ifanc. Bydd gwefan y cyngor, sianeli cyfryngau cymdeithasol, pwyllgorau dethol ac ymweliadau i gynghorau tref a chymuned yn gyfle pellach i rannu gwybodaeth ac i breswylwyr gynnig eu sylwadau.

Dyddiadau i’r dyddiadur:

·         Cyfarfod Cyhoeddus ar y Gyllideb – 14 Ionawr 6.30pm, Hyb Cas-gwent, 9 Stryd Banc, Cas-gwent, NP16 5EN

·         Cyfarfod Cyhoeddus ar y Gyllideb – 22 Ionawr 6.30pm, Llyfrgell y Fenni, Stryd Baker, Y Fenni, NP7 5BD

·         Cyfarfod Cyllideb Fforwm Mynediad i Bawb – Dydd Gwener 17 Ionawr, 11.00am- 2pm Canolfan Priordy Santes Fair, Y Fenni.

Mae’r Fforwm Mynediad i Bawb yn llwyfan gwerthfawr i alluogi pobl gydag anableddau, rhieni plant gydag anableddau a phobl hŷn o bob rhan o Sir Fynwy i gael eu lleisiau wedi’u clywed, derbyn gwybodaeth a chyfrannu at brosesau ymgynghori ac ymgysylltu.

Bydd cyfarfodydd clwstwr ar gyfer cynghorau cymuned a thref a fforymau pwyllgor ardal i glywed gwybodaeth leol. Mae’r dyddiadau a’r amserau i gael eu cadarnhau.

Dywedodd y Cyng Peter Fox OBE, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n annog preswylwyr i fanteisio ar y cyfle i edrych ar ein cynigion. Mae setliad Llywodraeth Cymru wedi ein taro am flynyddoedd lawer ac nid yw eleni yn eithriad. Byddwn yn parhau i wneud ein gorau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau, ond gyda hyn daw heriau. Rwy’n annog preswylwyr i feddwl am y newidiadau a gynigir yn y gyllideb amlinellol a dod draw i fforwm neu gyfarfod i glywed sut ydym yn gweithio i wneud arbedion a pheidio colli gwasanaethau.”

Arolwg Cyllideb – Arolog