Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn cymorth os ydynt yn astudio ar gwrs llawn amser gan gynnwys cyrsiau rhyngosod mewn prifysgol yn y DU neu Goleg a ariennir yn gyhoeddus a fydd yn arwain at ennill un o’r canlynol:
Gradd gyntaf h.y. BA, BSc, Bed.
Diploma Addysg Uwch h.y. Dip HE.
Diploma neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch h.y. HND, HNC.
Tystysgrif Addysg i Raddedigion h.y. TAR.
Blwyddyn sylfaen sydd yn ffurfio rhan hanfodol o un o’r cyrsiau uchod.
Mae’r cymorth ariannol wedi’i seilio ar asesiad wedi’i gynnal gan yr awdurdod lleol ac yn dibynnu ar brawf modd yn seiliedig ar incwm y cartref.
Mae’r dyddiadau cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2011/2012 fel y canlyn:
Mae angen i geisiadau myfyrwyr newydd gael eu cwblhau erbyn 15fed Ebrill 2011.
Mae angen i geisiadau myfyrwyr sydd yn dychwelyd gael eu cwblhau erbyn 27ain Mai 2011.
Mae modd cwblhau ceisiadau am fenthyciadau ar-lein (ffurflenni PN1 neu PR1).
Ceisiadau Hwyr wedi i’ch cwrs cychwyn; os ydych chi’n penderfynu eich bod am geisio am gymorth ariannol y mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais o fewn 9 mis o ddiwrnod cyntaf flwyddyn academaidd eich cwrs. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau y mae modd ymestyn y cyfyngiad hwn.
Yn gyffredinol, cymerir rhyw 6 wythnos i brosesu eich cais.
Astudio rhan amser
Mae gan fyfyrwyr israddedig rhan amser sydd yn astudio o leiaf 50% o gwrs llawn amser cyfatebol hawl i dderbyn Grant Ffioedd yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Dylai eich coleg neu’ch prifysgol allu eich hysbysu a yw eich cwrs yn gymwys ai peidio.
Mae tair graddfa wahanol ar gyfer grant ffioedd yn dibynnu ar ba mor ddwys y mae eich cwrs. Er enghraifft, os ydych chi’n astudio ar raddfa sydd yn cyfateb i 75% o gwrs llawn amser efallai y bydd modd i chi fod yn gymwys i dderbyn grant ffioedd uwch na myfyriwr sydd yn astudio ar raddfa sydd yn cyfateb i 50% o gwrs llawn amser.
Hefyd, y mae modd i chi geisio am gymorth ar gyfer costau yn gysylltiedig â’r cwrs gwerth hyd at £1,095.
Os ydych chi’n astudio ar gwrs ymarfer dysgu rhan amser nid ydych chi’n gymwys i dderbyn grantiau rhan amser ond, efallai, y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cymorth llawn amser.
Fel arfer, nid oes modd i fyfyrwyr sydd eisoes wedi ennill gradd geisio am y cymorth hwn.
Cymorth rhan amser ychwanegol
Efallai y bydd gan fyfyrwyr israddedig rhan amser sydd yn astudio o leiaf 50% o gwrs llawn amser cyfatebol hawl i dderbyn Grant Dibynyddion Mewn Oed, Grant Gofal Plant neu Lwfans Dysgu Rhieni.
Dylai eich coleg neu’ch prifysgol allu eich hysbysu a yw eich cwrs yn gymwys ai peidio.
Blwyddyn fwlch
Os ydych chi’n ceisio i astudio mewn sefydliad ond, wedyn, yn penderfynu cymryd blwyddyn fwlch peidiwch ag anghofio hysbysu eich dewis sefydliad cyn gynted â phosib.
Dylech chi gadw eich cadarnhad yn ddiogel oherwydd y bydd angen i chi hysbysu eich Awdurdod Lleol am eich penderfyniad ac, hefyd, ei ddefnyddio ar gyfer tystiolaeth pan eich bod yn ail-geisio y flwyddyn ddilynol.
Grantiau addysg bellach
Ydych chi mewn addysg bellach lawn amser? Ydych chi’n astudio tuag at gymwysterau Lefel A, BTEC, GNVQ ayb?
Os ydych, efallai y bydd y canlynol yn berthnasol:
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn gymhelliant sydd yn cael ei dalu i bobl ifainc gymwys (16 – 18 oed) sydd yn mynychu’r 6ed dosbarth yn yr ysgol neu’n mynychu’r coleg wedi cyrraedd yr oedran gadael yr ysgol, gan fynychu yn rheolaidd a chyflawni goliau dysgu.
Hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr addysg bellach yw Grant Dysgu Addysg Bellach Cynulliad Cymru sef grant sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru. Mae wedi’i seilio ar yr incwm gweddilliol blynyddol ac, am mai grant ydyw, nid oes angen i chi ei ad-dalu.
Mae modd llenwi ffurflenni cais neu ofyn amdanynt ar-lein.
Grantiau eraill sydd ar gael
Yn ogystal â’r grantiau addysg uwch, y mae grantiau ychwanegol ar gael sef:
Lwfans myfyrwyr anabl, mae modd ceisio am gymorth ar gyfer costau ychwanegol y bydd angen i chi eu talu er mwyn dilyn eich cwrs os oes gennych chi anabledd neu anhawster dysgu penodol.
Y grant cymorth arbennig yw grant ar gyfer myfyrwyr sydd, efallai, yn gymwys i dderbyn budd-daliadau sydd yn dibynnu ar brawf modd penodol fel cymhorthdal incwm a budd-dal tai. Mae’r grant yn debyg i Grant Dysgu y Cynulliad ac, fel arfer, nid oes angen i chi ei ad-dalu. Os ydych chi’n gadael eich cwrs yn gynnar efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth o’r grant.
Lwfans dysgu rhieni, grant ychwanegol yw hwn sydd yn helpu i dalu costau yn gysylltiedig â’r cwrs pan fo gennych chi blant dibynnol.
Grant Dibynyddion Mewn Oed, efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn cymorth os oes gennych chi oedolion yn eich cartref sydd yn dibynnu arnoch chi yn ariannol.
Grant gofal plant, mae’r grant hwn yn helpu tuag at gostau gofal plant ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio naill ai yn llawn amser neu’n rhan amser, (bydd yr Awdurdod Addysg Lleol ond yn talu hyd at 85% y gost wythnosol, £161.50 ar gyfer un plentyn ac, ar gyfer dau blentyn neu’n fwy uchafswm y grant yw £274.55 yr wythnos (85% o wir gost gofal plant hyd at £323 yr wythnos).
Mae modd cyflwyno cais am grant ar-lein trwy ddefnyddio’r ffurflenni PN1 neu PR1.
Mae modd argraffu ceisiadau grant gofal plant ar-lein neu ofyn amdanynt gan yr Awdurdod Addysg Lleol. E-bost: financelll@monmouthshire.gov.uk
Ffynonellau cyllid eraill
Mae ffynonellau cyllid eraill ar gael efallai y byddant yn berthnasol i chi yn dibynnu ar eich cwrs a’ch amgylchiadau sef:
Rhaglen Gyfnewid Ewropeaidd Erasmus.
Scholarship Search UK sydd yn cynnig gwybodaeth am ffynonellau cyllid eraill ar gyfer israddedigion.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Grantiau Addysgol yw asiantaeth gynghori annibynnol ar gyfer pobl sydd am dderbyn cyllid pellach ar gyfer mynychu addysg uwch neu addysg bellach. Hefyd, gall y Gwasanaeth Cynghori ar Grantiau Addysgol roi cyngor manwl ar y system gyllid statudol i’r rhai sydd yn ystyried mynychu addysg uwch neu addysg bellach.
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sydd yn cynnig cyngor i chi ar gredydau treth neu elfen gofal plant y credyd treth gwaith.
Cronfa Ymddiriedolaeth Frank Buttle sef cynllun grant ar gyfer myfyrwyr a hyfforddeion. Mae’n helpu pobl ifainc sydd yn wynebu anawsterau ariannol ac anawsterau difrifol eraill, fel arfer, diffyg rhwyd ddiogelwch teulu neu gymorth rhieni, i ennill cymwysterau academaidd, masnachol neu broffesiynol sydd mor hanfodol y dyddiau hyn.
Cymorth teithio
Efallai y bydd modd i fyfyrwyr 16 oed a hwn dderbyn cymorth tuag at eu costau teithio. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost i’r uned cludiant teithwyr: passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk
Ad-dalu eich benthyciad myfyriwr
Byddwch chi’n gymwys i ddechrau ad-dalu eich benthyciad yn y mis Ebrill wedi i chi gwblhau neu adael eich cwrs.
Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn gysylltiedig â’ch incwm.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gweithio â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gasglu’r ad-daliadau a fydd yn cael eu tynnu gan eich cyflogwr ac yn ymddangos ar eich datganiad cyflog.
Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy
Gall cyllid grant fod ar gael i fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch os ydynt yn astudio cwrs seiliedig ar y tir neu amaethyddol. Mae’n rhaid cyflawni’r meini prawf dilynol:
1. Mae’n rhaid i chi fyw yn Nhorfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent neu Gaerffili
2. Bod yn mynychu Coleg Gwent, Campws Brynbuga neu unrhyw goleg neu brifysgol arall fel myfyriwr amaethyddiaeth neu bynciau cysylltiedig.
Gofynnir i chi ddarllen y canllawiau ac yna lenwi’r ffurflen gais ar-lein ar Fy Sir Fynwy ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy. Os nad ydych wedi cofrestru’n barod ar gyfer Fy Sir Fynwy bydd angen i chi wneud hyn, yn defnyddio’r ddolen islaw, cyn llenwi’r ffurflen gais.
Drwy gofrestru a llenwi’r ffurflen ar-lein gallwch olrhain cynnydd eich cais a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei phrosesu. Unwaith y bydd wedi cael ei chofrestru, bydd y ffurflen gais ar gael yn ardal Ysgolion a Dysgu ar Fy Sir Fynwy.
Os ydych wedi cofrestru’n barod yn defnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows, yna gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.