Mae gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y ddwy rôl a hysbysebwyd, neu fel arall byddech heb gyrraedd yma. Felly, dyma ychydig o’r cefndir i chi. Rydym yn bwriadu adeiladu gwasanaeth diogelwch mewnol er mwyn darparu cydnerthedd seiber, sicrwydd diogelwch gwybodaeth a chymorth ymarferol i bartneriaeth o Heddlu Gwent, Cyngor Sir Fynwy, CBS Torfaen a CBS Blaenau Gwent.
Rydym wedi cael gwasanaeth wedi’i gontractio allan o’r blaen, felly mae fframwaith ar waith ar hyn o bryd, er y byddwch yn llunio’r fframwaith ac yn cynllunio’n ofalus ar gyfer yr heriau cydnerthedd seiber a wynebwn yn y dyfodol. Y nod yw darparu cyngor ac arweiniad mewnol i’n holl gydweithwyr, ar yr un pryd â gweithio gyda’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir ar ddiogelwch y seilwaith ffisegol.
Rydym am gael gwasanaeth mewnol oherwydd mae’n golygu bod cyngor yn dod gan rywun sy’n deall beth yw’r Heddlu a’r Awdurdodau Lleol, ond mae hefyd yn caniatáu i’r sawl sy’n rhoi’r cyngor fwrw ei lygaid ar draws y sefydliadau partner a mynd i ble mae eu barn broffesiynol yn mynd â hwy er mwyn gwella cydnerthedd seiber a diogelwch gwybodaeth
Cwrdd â’r rhanddeiliaid
Mae’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn gydweithrediad unigryw a llwyddiannus yn Ne Cymru sy’n darparu gwasanaethau technoleg i’r sector cyhoeddus. Mae partneriaid y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Heddlu Gwent, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn gweithredu gwasanaeth cydweithredol drwy un strwythur sefydliadol a model darparu, ac mae’n un sy’n cael ei annog drwy Strategaeth Technoleg Sector Cyhoeddus Cymru, dogfen a ysgrifennwyd ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.
Y Partneriaid
Mae Uwch Berchnogion Risg Gwybodaeth Heddlu Gwent ac Awdurdodau Lleol Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy wedi ffurfio partneriaeth â’i gilydd i ddarparu Gwasanaeth Diogelwch Gwybodaeth sy’n rhoi sicrwydd i ni a bod ein gwybodaeth yn ddiogel a’n bod wedi cynllunio cydnerthedd. Mae’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn rhoi ein seilwaith TGCh i ni, ac rydym yn gweithio’n agos iawn ochr yn ochr â hwy i gael y gorau o’n buddsoddiad cyffredin yng ngweithrediadau’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir. Mae’r gwasanaeth diogelwch wedi’i gontractio allan o’r blaen, ond yr ydym wedi penderfynu creu tîm mewnol er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar Ddiogelwch Gwybodaeth yn cael ei chynnwys ar gyfer y partneriaid. Y nod
yw rhoi cyngor ac arweiniad i’n holl gydweithwyr, ar yr un pryd â gweithio gyda’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir ar ddiogelwch y seilwaith ffisegol. Rydym am ei gael yn fewnol oherwydd mae’n golygu bod y cyngor yn dod gan rywun sy’n deall beth yw ystyr yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol, a hefyd yn caniatáu i’r sawl sy’n rhoi’r cyngor fwrw ei lygaid ar draws y sefydliadau partner a mynd i ble mae eu barn broffesiynol yn mynd â hwy er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y sefydliadau partner.
Er y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Fynwy, mae’n bwysig iawn deall nad oes ganddo unrhyw sofraniaeth dros y partneriaid eraill. Bydd yr holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gydweithio a safoni ar bolisïau lle bynnag y bo modd, er y bydd pob partner yn cadw rheolaeth dros ei archwaeth risg.