Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Cydlynydd Amddiffyn Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Mae Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn ymroddedig i ddatblygu ymarfer rhagorol
wrth gefnogi, gofalu, asesu a rheoli risg, ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o’r
prosesau cymorth ac amddiffyn yn yr Awdurdod Lleol. Mae’r Uned Ddiogelu yn
gonglfaen y cyrch am ragoriaeth wrth gadeirio cyfarfodydd cymhleth, adolygu
cynllunio gofal a deilliannau ar gyfer plant a’i swyddogaeth sicrwydd ansawdd.
Ymhellach i hyn, sicrhau fod holl bolisïau a phrotocolau cenedlaethol a rhanbarthol
ar Ddiogelu nid yn unig yn cyrraedd pob rhan o’r cyngor ond yn sicrhau bod llais Sir
Fynwy yn cyfrannu at lunio’r polisïau hyn.

Cyfeirnod Swydd: SCS277

Gradd: BAND K SCP 39 – SCP 43 £47,420 - £51,515

Oriau: 37 yr wythnos

Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga

Dyddiad Cau: 05/07/2024 12:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Oes