Cwmpawd – Cymorth ac Atal Digartrefedd Ieuenctid
Nod Compass yw adnabod a chefnogi pobl ifanc 11-25 oed sy’n cael trafferthion gyda’u lles emosiynol, mewn risg o ddod yn ddigartref neu sydd wedi dod yn ddigartref.
Cynigiwn gymorth gyda:
- Lles Meddwl ac Emosiynol a Chymorth Seiliedig ar Fater
- Atal/Adnabod Cynnar ar Ddigartrefedd
- Mentoriaeth/Eiriolaeth
- Sgiliau Byw Annibynnol
- Cefnogaeth yn yr Ysgol
- Rheoli Arian
- Cymorth Cyflogaeth
- Gwaith mewn partneriaeth gydag Ysgolion, Gwasanaethau Iechyd, Gwasanaethau Plant ac yn y blaen
Geirda
“Diolch am eich holl gefnogaeth gyda’ch merch, rydych wirioneddol wedi ei helpu.” Rhiant
“Diolch i chi am yr holl gefnogaeth a gwybodaeth a gefais, rwyf yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr.” Gweithiwr Cyfryngu Teuluoedd, Llamau
“Fe wnaethoch fy helpu i fynd yn ôl ar fy nhraed, roeddwn angen rhywun i wrando arnaf!” Person ifanc, llety cymorth Pobl
“Rydym yn gwirioneddol werthfawrogi’r gefnogaeth a gofal gwych a gawsom gennych dros lawer o fisoedd ac mewn cyfnodau heriol iawn iddi hi a’I theulu. Rwy’n gwybod faint oedd eich cefnogaeth a’ch arweiniad yn ei olygu a faint o wahaniaeth a wnaeth iddi.” Swyddog Cyswllt Teuluoedd, Ysgol
Cwrdd â’r Tîm
Ffoniwch ni os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw gwestiynau!
Marc Fennessy
Cydlynydd Digartrefedd a Gweithiwr Ymyriad Cynnar Compass
Amanda Edwards
Gweithiwr Digartrefedd Ieuenctid ac Ymyriad Cynnar Compass