Mae gan fy mhlentyn hawl i gludiant statudol rhwng y cartref a’r ysgol, a gaiff hyn ei ddarparu pan fydd ysgolion yn ail-agor ym mis Medi?
Mae’r Cyngor wedi dyrannu cludiant ar gyfer pob disgybl statudol, a dylech fod wedi derbyn llythyr yn cadarnhau hyn. Os yw’ch plentyn yn ddisgybl ysgol uwchradd, bydd hefyd wedi derbyn QR Pas Bws fydd yn rhaid ei gario bob amser.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, lle mae’n bosibl byddem yn annog pob rhiant/gwarcheidwad i fynd â phlant i’r ysgol drwy gerdded neu seiclo, neu fel arall mewn car symudedd neu gar preifat, yn hytrach na defnyddio cludiant ysgol neilltuol Fodd bynnag, sylweddolwn na fydd hyn bosibl i rai pobl.
Nid wyf wedi gwneud cais am gludiant ysgol eto, ac rwy’n credu fod fy mhlentyn yn gymwys am gludiant statudol rhwng y cartref a’r ysgol, a yw’n rhy hwyr i wneud cais nawr?
Na, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, llenwch y ffurflen gais sydd ar gael ar-lein yn defnyddio’r ddolen ddilynol.
Mae contract fy mhlentyn wedi newid, pam felly?
Gallai fod am nifer o resymau. Gall y gweithredwr fod wedi terfynu contract, gallai disgybl cymwys arall fod wedi gwneud cais a gall fod angen i ni symud disgyblion o amgylch i gael sedd o fewn yr ardal honno.
Beth yw’r terfyn amser ar gyfer teithiau i ac o’r ysgol ar gyfer plant?
Ar gyfer plant ysgol gynradd mae’r amser tua 45 munud bob ffordd. ac mae’n 1 awr ar gyfer plant oedran uwchradd.
Pam fod fy mhlentyn oedran uwchradd wedi cael sedd ar fws gwasanaeth cyhoeddus?
Mae’r Cyngor wedi ac yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau bws cyhoeddus ar gyfer dysgwyr uwchradd. Mae hyn yn cefnogi’r Mesur Teithio Dysgwr a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n alinio gyda pholisïau cludiant Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Corfforaethol a Chymunedol.
A yw’n ddiogel i fy mhlentyn fynd ar fws gwasanaeth cyhoeddus?
Mae’r un protocolau sydd yn rheoli diogelu yr un mor weithredol ar gerbydau gwasanaeth cyhoeddus ac mae gan yrwyr DBS. Mae hefyd deledu cylch cyfyng yn y cerbydau. Ein profiad hyd yma yw nad teithio ar wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu’r risg o ddigwyddiadau diogelu, er y sylweddolwn y gall rhieni a gofalwyr gredu hynny. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda gweithredwyr i fonitro ymddygiad teithwyr ac adolygu mesurau diogelu a mesurau cludiant lle mae pryderon gyda sylwedd yn codi.
Nid oes gan fy mhlentyn hawl i gludiant ysgol am ddim; a allaf wneud cais am gludiant Ôl-16 rhatach neu gludiant rhatach?
Byddwn yn dechrau’r asesiad a dyrannu cludiant Ôl-16 rhatach o 1 Mai bob blwyddyn. Dylid cofio fod nifer y seddi gwag ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i nifer y disgyblion sydd â hawl i gludiant statudol gynyddu. Yn anffodus nid oes unrhyw warant y bydd gennym unrhyw seddi gwag ar gludiant presennol. Yn y lle cyntaf, byddwn yn delio gyda cheisiadau Ôl-16 ac yn dilyn hynny byddwn wedyn yn asesu a dyrannu cludiant rhatach, lle mae capasiti yn caniatáu hynny. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau Ôl-16 a Rhatach ar sail cyntaf i’r felin yn ogystal â phellter o’r lleoliad addysg, mae hyn yn gydnaws gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru sy’n annog defnyddio teithio llesol lle’n bosibl.
Pryd fyddaf yn clywed gennych yng nghyswllt Cludiant Ôl-16?
Cysylltir â chi drwy e-bost p’un ai a fuoch yn llwyddiannus neu aflwyddiannus wrth gael sedd ar gludiant erbyn diwedd y ddwy wythnos gyntaf o ddechrau tymor mis Medi.
Gwrthodwyd cludiant Ôl-16 i fy mhlentyn. Pam hynny?
Y rheswm am hyn yw yn anffodus mai dim ond nifer o seddi gwag sydd gennym, ac na fedrwn ddarparu gwasanaethau contract ychwanegol ar gyfer disgyblion Ôl-16. Caiff pob cais ei asesu ar sail cyntaf i’r felin. Deallwn y gall hyn achosi pryder i rieni a byddem yn awgrymu eich bod yn mynd i wefan Mytravelpass i wneud cais am drafnidiaeth gyhoeddus rhatach, os yw hyn ar gael yn eich ardal. Cartref ♥ mytravelpass | Llywodraeth Cymru