A yw’r ysgol pob oed yn ddull newydd?
Mae ysgolion pob oed yn gyffredin yn Lloegr ac yn dod yn fwy cyffredin yng Nghymru. Mae mwy na 20 o ysgolion pob oed yng Nghymru ar hyn o bryd gyda’r niferoedd yn parhau i gynyddu. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad isod gan Estyn.
Adroddiad Sefydlu Ysgolion Pob Oed – Estyn Lawrlwytho
Pam fod angen ysgol pob oed?
Mae ysgolion pob oed yn gwella deilliannau addysgol, darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli. Hefyd, mae ysgolion pob oed yn gwella effeithiolrwydd wrth gyflenwi addysg ac yn lleihau effaith pontio rhwng cyfnodau allweddol.
Beth yw nodau’r ysgol newydd?
Caiff nodau’r ysgol newydd eu penderfynu gan y Corff Llywodraethu newydd pan gânt eu penodi. Fodd bynnag, disgwylir y byddant yn adlewyrchu nodau’r ysgolion presennol.
Beth yw dalgylch yr ysgol adeilad newydd yn y Fenni?
Dalgylch yr ysgol newydd fydd dalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd Deri View ac Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII.
A fyddwn yn rhoi rhywbeth gwell, neu dim ond gwahanol?
Y cynnig yw darparu ysgol sy’n parhau taith yr ysgolion presennol wrth sicrhau deilliannau gwell. Bydd yr ysgol yn rhoi parhad mewn dysgu drwy bontio llyfn rhwng cyfnodau a strategaeth gydlynol ar gyfer dysgu, gofal bugeiliol a chymorth.
A yw’n fanteisiol i ddisgyblion fod ar yr un safle ar gyfer eu blynyddoedd ysgol? Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall hyn fod yn wir. Mae’n arbennig o fanteisiol i ddisgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 6 a dechrau Blwyddyn 7 lle mae’n aml ostyngiad mewn cyrhaeddiad yn dilyn symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
A oes darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Arbennig? Caiff canolfan adnoddau ánghenion arbennig ei sefydlu yn yr ysgol ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd. Bydd y ganolfan hon ar gyfer disgyblion gydag anghenion niwroddatblygiadol cymhleth. Bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn rhoi amgylchedd hygyrch a chynhwysol ar gyfer pob disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi plant a phobl ifanc gydag anawsterau corfforol/meddygol i fod yn fwy annibynnol.
A fydd yn rhaid i staff ail-ymgeisio am eu swyddi ar gyfer ysgol newydd y Fenni? Caiff y strwythur staffio ei benderfynu gan y corff llywodraethu newydd; fodd bynnag ni ddisgwylir y bydd yn rhaid i’r staff presennol wneud cais am swyddi yn yr ysgol newydd.
Beth yw’r effaith ar ysgolion o amgylch? Ni ddylai fod unrhyw effaith ar ysgolion o amgylch, er y gall rhai rhieni ddewis anfon eu plant i’r ysgol newydd os oes lle.
A gaiff yr hen safle ei ddymchwel? Gwneir hyn yng Ngham 2 ac unwaith y cafodd yr ysgol newydd ei hadeiladu.
A gaiff maint y cae chwarae ei leihau? Ni chaiff maint y cae chwarae ei ostwng. Gall cyfleusterau fod mewn gwahanol leoliadau ar y safle a chânt yn bendant iawn eu gwella.
A fydd y ganolfan hamdden ar agor ar yr un pryd â’r ysgol? Bydd y ganolfan hamdden yn parhau ar agor.
A fydd gofodau gwyrdd ar gyfer chwarae? Bydd caeau chwarae fel sydd ar hyn o bryd, a ddangosir yn y cynllun islaw.