
Syrfëwr Eiddo dan Hyfforddiant
Bydd y prosiect yn targedu pobl ddi-waith, y rhai mewn addysg amser llawn sy’n chwilio am waith a phobl sy’n ceisio newid gyrfa o waith isel neu ddi-grefft yn Sir Fynwy. Mae’r hyfforddeion yn cwblhau cymhwyster trac cyflym achrededig mewn Tirfesur Adeiladau, Sero NET, datgarboneiddio a’r cyrsiau ôl-osod. Bydd cyfranogwyr yn cofrestru gyda RICS fel partner a bydd cyfle i symud ymlaen i statws siartredig llawn. Bydd cyflogaeth ddilynol yn cael ei sicrhau ar ôl cwblhau’r rhaglen, lle gall cyfranogwyr symud ymlaen i brentisiaeth uwch a/neu radd yn y brifysgol.

Darryl Williams
Rheolwr Rhaglen y Prentis
www.yprentis.co.uk
Email: darryl.williams@yprentis.co.uk
?: 01495 745913 | ?: 07496 758015

David Harris
Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant
“Fy nod pan ddechreuais oedd dod o hyd i swydd llawn amser ym maes syrfëwr – ac rydw i bellach wedi’i gyflawni hynny, diolch i raglen Y Prentis. Wrth edrych ymlaen nawr, dwi’n canolbwyntio ar gwblhau fy hyfforddeiaeth a dod yn syrfëwr llawn.”

Rebecca Diamond
Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant
“Dwi wedi ennill cymwysterau defnyddiol iawn a fydd, gobeithio, yn fy ngwneud i’n fwy cyflogadwy. Mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy, sydd wedi fy lletya, wedi bod mor groesawgar, a dwi eisoes yn teimlo fel rhan o’r tîm.”

Naomi Pang
Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant
“Trwy ddarparu hyfforddiant yn y swydd, ces i brofiad i roi cynnig ar y rolau sydd ar gael ac ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, gan wneud sylfaen gadarn iawn i mi ddechrau fy ngyrfa mewn eiddo.”

Matthew Ormerod
Syrfëwr Eiddo Dan Hyfforddiant
“Dwi’n teimlo ers dechrau’r cynllun bo fi wedi dod yn fwy hyderus a gwybodus mewn sawl ffordd ac yn fwy uchelgeisiol wrth feddwl am fy nyfodol.”
Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.