Skip to Main Content

Ysgrifennydd James Williams Prif Swyddog Cyfraith a Llywodraethiant (Swyddog Monitro)

Rheolwr Cyffredinol Mr Peter Davies Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy

Amcanion: Prif nod yr Elusen ar gyfer pob blwyddyn, fel y’i nodir yn ei dogfen llywodraethiant, yw cynorthwyo grwpiau cyhoeddus ac unigolion ar gyfer dibenion cymdeithasol, hamdden a budd elusennol eraill. Mae grantiau ar gael gan y Gronfa ar gyfer dibenion cyfalaf neu refeniw. Gellir dyfarnu grantiau cyfalaf i gynorthwyo sefydliadau gyda chelfi a chynnal a chadw adeiladau. Bwriedir i grantiau refeniw hybu nodau cymdeithasau a chynorthwyo unigolion gyda’u diddordebau amrywiol.

Polisi dyrannu grantiau Caiff cyllideb flynyddol a osodir gan yr Ymddiriedolaeth a gyfer taliadau grant ei rhannu rhwng ardaloedd gweinyddol Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen ar sail poblogaeth. Mae Pwyllgor a sefydlir gan yr Ymddiriedolydd yn cymeradwyo ceisiadau am grant ar sail yn unol â chyfarfodydd Cyngor llawn neu fel y bernir sydd angen gan yr awdurdodau sy’n cymryd rhan. Caiff grantiau ei gwneud yn unol ag amcanion yr Elusen.

Rhoi grantiau yw’r prif ddull o gyflawni dibenion

Yr hyn a wnaiff yr elusen:

  • Addysg/hyfforddiant
  • Hybu iechyd neu arbed bywydau
  • Anabledd
  • Atal neu liniaru tlodi
  • Gweithgareddau crefyddol
  • Diwylliant/Treftadaeth/Gwyddoniaeth
  • Chwaraeon amatur
  • Amgylchedd/Cadwraeth/Treftadaeth

Pwy mae’r elusen yn eu helpu:

  • Plant/pobl ifanc
  • Pobl oedrannus/hen
  • Pobl gydag anableddau
  • Elusennau eraill neu gyrff gwirfoddol
  • Y cyhoedd yn gyffredinol/dynolryw

Sut mae’r elusen yn helpu:

  • Rhoi grantiau i unigolion
  • Rhoi grantiau i sefydliadau

Ble mae’r elusen yn gweithredu:

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Dinas Casnewydd
  • Sir Fynwy
  • Torfaen

https://register-of-charities.charitycommission.gov.uk/en/charity-search/-/charity-details/507094/what-who-how-where

Dibenion elusennol y gellir defnyddio’r Gronfa ar eu cyfer


Pwy all wneud cais?

Preswylwyr Sir Fynwy ac unrhyw sefydliad sy’n gweithredu o fewn y sir.

Pa mor aml y caiff ceisiadau grant eu hystyried?

Caiff ceisiadau eu hystyried saith gwaith y flwyddyn.

Gofynnir i grwpiau/sefydliadau nodi fod yn rhaid cael copi o’u datganiad ariannol gyda’r ffurflen gais er mwyn ei ystyried.