Mewn cydweithrediad â Thîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, cynhaliodd Pwyllgor Neuadd Bentref Cross Ash brynhawn agored bendigedig ar ddydd Mercher 1af Mai. Pwrpas y digwyddiad oedd cysylltu â thrigolion, gwrando ar eu straeon, a rhannu lluniau hanesyddol o’r pentref. Buont hefyd yn ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned i gasglu syniadau ar lywio dyfodol y neuadd bentref.
Dechreuodd disgyblion o Gôr Ysgol Gynradd Cross Ash y gweithgareddau, gyda pherfformiad hyfryd o ganeuon yn y Gymraeg a’r Saesneg a oedd yn gosod y naws ar gyfer y prynhawn cyfan. Yna arhosodd disgyblion i rannu eu syniadau a sgwrsio â thrigolion hŷn y pentref, gan wneud cysylltiadau gwych ar draws cenedlaethau gwahanol. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad, gan gynnwys trigolion Cross Ash ac Ysgol Gynradd Cross Ash. Roedd sefydliadau lleol o bob rhan o Sir Fynwy yn bresennol gan gynnwys cynrychiolwyr GAVO Sir Fynwy, Cyngor Cymuned Ynysgynwraidd, Bridges Centre, Age Cymru, Mind Sir Fynwy, Aneurin Bevan, Cyngor Ar Bopeth a MHA iConnect.
Mynychodd y Cyng Angela Sandals, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu a’r Cyng Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y digwyddiad gan siarad â phwyllgor Neuadd Bentref Cross Ash.
Os hoffech drafod syniadau ar gyfer digwyddiad tebyg yn eich ardal leol cysylltwch â Thîm Datblygu Cymunedol CSF> Cliciwch yma>
Tîm Datblygu Cymunedol Sir Fynwy a phwyllgor Neuadd Bentref Cross Ash a ffrindiau. Yn cydweithio ar syniadau i helpu eu cymuned i ffynnu.
Te, cacen a chwmni gwych!
Hen luniau yn dangos hanesion y pentref o’r gorffennol! Edrychwch ar y ceir retro cŵl hynny!
Roedd sefydliadau cymorth lleol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gan gynnig cyngor a gwasanaethau cyfeirio i’r trigolion.