
Mae B Community yn gwerthfawrogi dulliau amrywiol o wirfoddoli. Rydym yn
gwerthfawrogi cyfraniadau unigryw pob gwirfoddolwr ac yn eu hanrhydeddu. Mae BeCommunity yn grymuso gwirfoddolwyr Sir Fynwy gydag adnoddau a chyfleoedd hyfforddiant cynhwysfawr.
Mae dull Be Community yn amlochrog. Darparwn ar gyfer anghenion a diddordebau amrywiol gwirfoddolwyr, gan gynnig cyrsiau hyfforddiant sy’n cynnwys agweddau amrywiol o wirfoddoli a rheoli grŵp cymunedol Ein nod yw sicrhau fod gan unigolion y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Archebu Cwrs > Ffurflen Cofrestru
Yn ogystal â hyfforddiant traddodiadol, rydym yn cynnig :
- Modiwlau dysgu ar-lein hygyrch, sy’n galluogi gwirfoddolwyr i ymwneud â chynnwys gwerthfawr ar eu cyflymder eu hunain a phan mae’n gyfleus iddyn nhw. Caiff yr adnoddau hyn eu llunio i wella eu dealltwriaeth o faterion cymunedol, meithrin empathi a hyrwyddo dulliau effeithiol i ddatrys problemau.
- Pecynnau pwrpasol, sylweddolwn weithiau fod mudiadau cymunedol angen dull mwy pwrpasol i helpu codi’r prosiect i’r lefel nesaf neu oresgyn heriau. Yn yr amgylchiadau hyn gallwn gynnig mentoriaeth gan sefydliadau trydydd sector profiadol gydag arbenigedd penodol yn eich maes.
- Mae rhwydweithio yn elfen allweddol yn ein system cymorth. Rydym yn hwyluso cysylltiadau rhwng gwirfoddolwyr, gan eu galluogi i gyfnewid syniadau, cydweithio ar brosiectau a dysgu o brofiadau ei gilydd. Gall gwirfoddolwyr ehangu eu cylchoedd cymdeithasol, ffurfio partneriaethau a chael gwybodaeth werthfawr sy’n cyfoethogi eu taith gwirfoddoli.
Mae Be Community yn ymroddedig i ddarparu adnoddau a chyfleoedd am ddim i bob gwirfoddolwr. Mae ein hymroddiad yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol byth yn llesteirio gallu neb i gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned. Credwn y dylai bawb gael cyfle i wirfoddoli a phrofi’r ymdeimlad dwfn o gyflawni y mae’n ei roi.
Mae Be Community yn croesawu pob gwirfoddolwr, p’un ai’n brofiadol neu’n newydd. Gyda’n gilydd gadewch i ni adeiladu cymuned gryfach a mwy trugarog i bawb.
Cyrsiau a Gweithdai Diweddaraf

Hyfforddiant atgofion seiliedig ar wrthrychau
18 Mawrth 2025, 10:00am – 3:00pm, Neuadd Sirol Trefynwy
Datgloi Grym Sgwrs: Gwneud Gwahaniaeth i Fywydau Pobl Hŷn a Rhai sy’n Byw gyda Dementia!
Ydych chi wrth eich bodd yn siarad gyda phobl?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl hŷn a phobl yn byw gyda Dementia?
Mae atgofion yn ddull gwych a grymus i ysgogi sgwrs, hyrwyddo cofio am brofiadau bywyd a sbarduno’r cof.
Ymunwch â Karin Molson o Dysgu Treftadaeth MonLife a darganfod sut i:
- Defnyddio gwrthrychau i greu profiadau atgofion diogel a diddorol
- Dysgu pa wrthrychau sy’n gweithio orau
- Canfod lle gallwch logi adnoddau atgofion
- Darganfod sut i greu eich adnoddau atgofion eich hun s
- Bod yn greadigol gyda gweithgareddau i gadw’r sgwrs i lifo.
Bydd y cwrs un-dydd hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi i wneud argraff barhaus ar fywydau’r rhai yr ydych yn ymwneud â nhw.
Cofrestrwch heddiw a dechrau trawsnewid atgofion i fod yn gysylltiadau grymus!
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Ysgol Tummler
Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025, 10:30 – 2pm,
Cael mwy o bobl i ddweud 'ie' i gymryd rhan yn eich grŵp, tyfu eich cymuned o wirfoddolwyr, bod yn ddoethach.
• Angen mwy o bobl i gymryd rhan yn eich grŵp?
• A oes gan eich grŵp yr 'un bobl bob tro' yn gwneud y cyfan - ac efallai'n gorweithio?
• Am drawsnewid eich grŵp gydag aelodau mwy egnïol?
Ewch adref gyda phecyn cymorth newydd sy'n darparu canlyniadau ar unwaith
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

CIEH Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2
(Ar-lein, Dysgu o Bell)
Mae’r cwrs ar-lein hwn, gydag achrediad y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, yn eich dysgu sut i drin cynnyrch ffres yn ddiogel yn y maes.
Byddwch yn dysgu sut i adnabod a rheoli peryglon bwyd, rheoli tymheredd, dilyn protocolau glanweithdra a glanhau, a chydymffurfio gyda rheoliadau.
Byddwch hefyd yn dysgu am wahanol fathau o beryglon bwyd, tebyg i microbiolegeol, ffisegol, cemegol, alergenaidd a maleisus.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

CIEH Lefel 2 Egwyddorion Codi a Chario
(Ar-lein, Dysgu o Bell)
Mae cwrs ar-lein Egwyddorion Codi a Chario yn hanfodol ar gyfer unigolion sy’n codi gwrthrychau trwm i ddeall egwyddorion allweddol a all ostwng risg o anaf drwy sylwi ar beryglon arferol codi a chario.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Cyflwyniad i godi a chario
- Adnabod peryglon codi a chario
- Cynnal asesiadau risg
- Gweithredu mesurau rheoli a lleihau risg o anaf
Deddfau a rheoliadau perthnasol
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

CIEH Lechyd a Diogelwch yn y Gweithle Lefel 2
(Ar-lein, Dysgu o Bell)
Cynyddwch lesiant a diogelwch eich tîm gyda’r Iechyd a Diogelwch lefel 2 a gymeradwywyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd uchel ei barch.
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn gynhwysfawr ac yn cynnwys agweddau hanfodol diogelwch gweithle mewn gwahanol sectorau.
Mae’r cwrs yn addysgu sut i adnabod a rheoli gwahanol fathau o beryglon, cynnal asesiadau risg, gweithredu mesurau rheoli a thrin digwyddiadau. Nod y cwrs yw helpu sefydliadau a gwirfoddolwyr i wella eu safonau a diwylliant diogelwch.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) Lefel 2
(Ar-lein, Dysgu o Bell)
A ydych chi’n ymwybodol o’r peryglon posibl yn eich gweithle?
A ydych chi’n gwybod sut i drin sylweddau peryglus yn ddiogel?
Ymunwch â’n Gweithdy COSHH (Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd) a sicrhau amgylchedd gwaith mwy diogel i bawb!
Mae’r cwrs hyfforddi e-ddysgu cynhwysfawr hwn wedi’i achredu gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, gan sicrhau’r safonau uchaf o ran ansawdd a chydymffurfiaeth.
Beth Fyddwch yn Dysgu:
• Deall rheoliadau COSHH a’u pwysigrwydd
• Adnabod sylweddau peryglus yn eich gweithle
• Trin, storio a gwaredu sylweddau peryglus yn ddiogel
• Rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith • Gweithdrefnau brys a chymorth cyntaf wrth ddelio â sylweddau peryglus
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Man Rheoli Critigol) Lefel 2
(Ar-lein, Dysgu o Bell)
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer sefydliadau/grwpiau i ddysgu sut i reoli diogelwch bwyd a gweithredu system HACCP pan yn gweithio mewn busnes bwyd.
Bydd yn llywio gweithredwyr bwyd ar reoli diogelwch bwyd a rhoi mesurau rheoli sy’n sicrhau amgylchedd bwyd diogel sy’n diogelu defnyddwyr ac yn bodloni craffu allanol gan arolygwyr. Caiff samplau a ffurflenni banc y gellir eu hargraffu eu darparu ar gyfer eich sefydliad, a byddwch yn dysgu sut i weithredu Model Codex 2 Cam HACCP
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Foodie Foundations – Hyfforddiant Iechyd yr Amgylchedd
Dyddiadau’r cwrs i gael eu cadarnhau!
Adeiladau Prosiect Bwyd Cymunedol Diogel a Llwyddiannus gyda Chynllun Hyfforddi Be Community. Mae’r Foodie Foundations yn gynllun hyfforddiant a gynigir mewn partneriaeth gydag Iechyd yr Amgylchedd a Be Community. Mae’n cynnig cymorth a hyfforddiant personol ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n ymwneud â pharatoi neu drin bwyd. Nod y cynllun yw sicrhau llwyddiant a diogelwch drwy deilwra cyngor i anghenion unigryw pob prosiect. Rhoddir cymorth ôl-ymweliad hefyd. Fodd bynnag, nid yw’n cymryd lle arolygiadau arferol.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Ymgysylltu Digidol gyda Phobl Ifanc
Yn dod cyn hir
Hoffech chi wneud eich fideos eich hun ar gyfer YouTube, TikTok, Instagram neu unrhyw lwyfan arall a dysgu sut i greu cynnwys diddorol sy’n edrych yn broffesiynol ac yn denu a chadw gwylwyr?
Darllen mwy >
Os felly, mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Byddwch yn dysgu:
Sut i gael y sain cywir ar gyfer eich cynnwys, p’un ai ydych yn defnyddio microffon, ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Addasu’r sain, dileu sŵn cefndir a gwella ansawdd eich llais a cherddoriaeth.
Sut i osod eich camera a goleuadau i greu’r effaith weledol orau bosibl. Dewis yr ongl, pellter ac uchder gorau ar gyfer eich camera, yn ogystal â sut i ddefnyddio ffynonellau golau naturiol ac artiffisial i greu gwahanol awyrgylch.
Sut i gyflwyno eich hun ar gamera yn hyderus a gyda charisma, Dysgu sut i siarad, ystum a rhyngweithio gyda’ch cynulleidfa mewn ffordd ddilys a deniadol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd yr wybodaeth a’r sgiliau gennych i gynhyrchu fideos gwych fydd yn gwneud argraff ar eich gwylwyr a thyfu eich sefydliad/grŵp.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu gan yr arbenigwyr a rhyddhau eich creadigrwydd.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Pŵer i’r Bobl!
Yn dod cyn hir
Aros yn gynnes ac yn iach yn ystod tymor yr hydref a’r gaeaf 2024/25
Ymunwch ag Asiantaeth Ynni Severn Wye a BE Community am weithdy rhyngweithiol ar-lein i ddeall tlodi tanwydd, adnabod ei arwyddion, a dysgu awgrymiadau ar sut i arbed ynni. Mae’r sesiwn hon ar gyfer gwirfoddolwyr unigol a grwpiau.
Pynciau Allweddol:
Diffiniad ac esboniad o dlodi tanwydd
Adnabod arwyddion o dlodi tanwydd
Awgrymiadau ymarferol a haciau ar sut i arbed ynni
Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i gefnogi eraill i gadw’n gynnes ac yn iach yn ystod y tymhorau oerach.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Cymorth Cyntaf Pediatrig (2 ddiwrnod)
i’w gadarnhau
Mae hwn yn gwrs 12-awr (2 ddiwrnod) sy’n rhoi sgiliau i gynorthwyo plentyn neu faban mewn argyfwng. Mae’n cyflawni safonau Iechyd a Diogelwch – Rheoliadau Cymorth Cyntaf 1981.
Mae sefyllfaoedd argyfwng ar gyfer plant a babanod yn wahanol i rai oedolion. Maent hefyd angen dull penodol o ran oedran ac mae’n addas ar gyfer os yw Asesiad Risg Cymorth Cyntaf gweithle yn dangos argymhelliad ar gyfer cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith
14 Chwefror 2025
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dod yn berson cymorth cyntaf argyfwng. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddelio gyda sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn amgylcheddau gweithle risg isel ar gyfer rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Ar ôl mynychu’r cwrs, bydd y person cymorth cyntaf yn deall ac yn medru rheoli cleifion heb fod yn ymatebol, mewn sioc, yn tagu neu sydd â man anaf.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)

Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (3 diwrnod)
1 – 3 Ebrill 2025, 9:30am – 4:30pm, Brynbuga
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dod yn berson cymorth cyntaf. Mae’n rhoi sylw i amrywiaeth ehangach o bynciau nag a ddaw o fewn cymhwyster Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith.
Mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i ddelio gyda sefyllfaoedd cymorth cyntaf mewn gweithleoedd risg uwch neu weithleoedd gyda nifer uwch o gyflogeion. Cafodd ei gynhyrchu i gynorthwyo Amcanion Cwrs a Deilliannau Dysgu Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Erbyn diwedd y cwrs bydd cynrychiolwyr yn gallu trin claf sy’n anymatebol, ond bydd hefyd yn gwybod sut i drin anafiadau Cymorth Cyntaf sylfaenol tebyg i sioc anaffylactig, epilepsi, diabetes, gwenwyn, trawiad calon ac anafiadau i esgyrn, cymalau a chyhyraurheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Ar ôl mynychu’r cwrs, bydd y person cymorth cyntaf yn deall ac yn medru rheoli cleifion heb fod yn ymatebol, mewn sioc, yn tagu neu sydd â man anaf.
Ffurflen Gofrestru Rhaglen Byddwch Gymuned 2024/25 (office.com)
Cyrsiau’r Gorffennol
Cyrsiau’r gorffennol yw’r rhain, fodd bynnag cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb ynddynt!
- Highfield Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth a Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
- Chat GBT (ap deallusrwydd artiffisial) – gweithdy hyfforddi ar-lein
- Gwneud i Grantiau Weithio gyda Justin Horton
- Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Stori Brandio a Brand
- Asesu Risg
- Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Cymorth Cyntaf Hunanladdiad
- Cymorth Cyntaf
- Ymwybyddiaeth o’r Menopos
- Rheoli Stres
- Datgloi Atgofion: Atgofion Seiliedig ar Wrthrychau a Hyfforddiant Caffe Cof
BE Community Ymholiad Cwrs >
BECommunity@monmouthsire.gov.uk
Cyllidir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.