Skip to Main Content

Dechreuwyd y Cookalong Clwb gan Angharad a’i merch Pip. Mae’n ymwneud gydag ymrymuso plant o bob oedran yn y gegin, yn rhoi hyder iddynt i lunio prydau bwyd blasus ar gyfer eu teuluoedd. Mae’r clwb yn gweithio gydag ysgolion a  grwpiau lleol ar-lein a sesiynau wyneb i wyneb.

cooks in kitchen smiling

Danteithion cartref i gŵn a chathod

Mae’r rhain yn gwneud anrhegion gwych i’ch anifeiliaid anwes neu ffrindiau a pherthnasau sydd â chŵn neu gathod. Holwch am alergedd.

Cynhwysion:

  • 1.5 llwy fwrdd olew llysiau
  • 2 llwy fwrdd menyn cnau daear
  • 2 llwy fwrdd mêl
  • ¾ llwy de powdr pobi
  • 1 wy
  • 250g blawd – cyflawn, blawd reis – beth bynnag sydd gennych. Hefyd flawd ychwanegol ar gyfer rholio allan.

Dull:

  1. Ffwrn ar 180 C
  2. Rhoi’r holl gynhwysion mewn bowlen gymysgu fawr.
  3. Pwnno’r toes gyda’ch dwylo am ychydig a’i rolio allan ar wyneb gydag ychydig o flawd arno i tua 1m o drwch. Torri gyda thorrwr bisgedi a rhoi ar yr hambwrdd pobi gyda leinin o bapur pobi.
  4. Pobi am 10 munud nes bod y darnau wedi caledu.


Teisennau Bach Nadoligaidd

Rydym wedi twyllo ac a phrynu teisennau bach ar gyfer eu defnyddio, mae hyn i gyd am hwyl wrth addurno!

I addurno:

  • 200g menyn di-halen
  • 400g siwgr eisin
  • 1 llwy de rhin fanila
  • 1 llwy de lliw bwyd gwyrdd
  • Smarties bach/m&m
  • Eisin ysgrifennu du
  • Sêr bach ar gyfer addurno

Offer:

Bowlen gymysgu, clorian, llwy bren neu gymysgydd llaw, bag a phig eisin, dwylo glân a ffedog.

Rhoi’r menyn a’r siwgr mewn bowlen a chymysgu’n dda iawn. Ychwanegu rhin fanila a lliw bwyd. Rhoi mewn bag eisin ac addurno neu ddefnyddio llwy a chyllell wastad.


Wedi’i goginio gartref Rocky Road

Cynhwysion:

Holwch am alergedd!

  • 150g menyn ynghyd ag ychydig ar gyfer y tun
  • 3 llwy fwrdd siwgr caster
  • 3 llwy fwrdd mêl, syrup melyn neu syrup masarn
  • 4 llwy de powdr coco
  • 225g bisgedi wedi’u malu’n fân (beth bynnag sydd gennych)
  • Llond llaw o ffrwythau sych, Smarties neu falws melys
  • 110g siocled llaeth
  • 110g siocled tywyll

Offer:

Bowlen y gellir ei rhoi mewn microdon, sosban, tun 15-20m (wedi’i leinio gyda phapur pobi gyda menyn arno), llwy bren, sbatwla, llwy fwrdd, llwy de, priciau coctel a ffedog a dwylo glân.

Dull:

  1. Leinio’r tun gyda phapur pobi a rhoi menyn arno.
  2. Mewn sosban ychwanegu’r menyn, siwgr, mêl, powdr coco a thoddi dros wres isel.
  3. Pan fydd wedi toddi, ychwanegu’r bisgedi a’r ffrwythau sych. Cymysgu’n dda.
  4. Llwyo i’r tun wedi ei baratoi a phwyso lawr gyda chefn llwy.
  5. Mewn bowlenni ar wahân, ychwanegu’r siocled llaeth neu dywyll a thoddi’n araf yn y microdon dros wres isel, gan wirio bob 20 eiliad.
  6. Unwaith y bydd wedi toddi, tywallt y siocled dros y cymysgedd bisgedi ac ychwanegu topin.
  7. Rhoi yn yr oergell am ychydig oriau ac yna torri’n ofalus i sgwariau bach. Mae’n gwneud anrhegion gwych yn ogystal â thrît i chi.

Salad Ysgewyll Fietnam

Dim yn hoff iawn o ysgewyll ond yn hoffi ychydig o sbeis – mae hwn yn salad gwych ar gyfer cyw iâr, stêc ac efallai y salad Gŵyl San Steffan gorau ERIOED gyda sbarion twrci – bydd yn sicr yn dod â dŵr i’ch dannedd!

Cynhwysion:

  • 1 ewyn garlleg, wedi torri’n fân
  • 1-2 chillies coch Thai – TWYM!
  • 1 llwy fwrdd siwgr – siwgr brown, siwgr palmwydd, siwgr gwyn – beth bynnag sydd gennych
  • 1.5 llwy fwrdd finegr reis neu finegr gwin gwyn
  • 1.5 llwy de saws pysgod
  • Sudd leim
  • 1.5 llwy fwrdd olew llysiau
  • Wynwyn bach neu 2-3 sialot wedi tafellu’n fân
  • 200g ysgewyll wedi tafellu’n fân
  • 1 moryn mawr wedi tafellu’n fân
  • Pecyn coriander – gwahanu dail a choesau a thorri’r coesau yn fân
  • Pecyn mintys
  • Pinsiaid o halen a phupur
  • 100g cnau cashew neu gnau daear wedi’u torri’n fras
  • Sbarion cyw iâr neu dwrci

Offer:

Cyllell finiog, bwrdd torri, llwy fwrdd, bowlen fach a bowlen fawr ar gyfer gweini

Dull

  1. Torri’r garlleg a chillies coch yn fân a’u rhoi mewn bowlen fach.
  2. Ychwanegu siwgr, saws pysgod, finegr, olew a sudd leim a chymysgu.
  3. Cymysgu’r wynwyn i mewn a gadael i fwydo am 20-30 munud.
  4. Ysgewyll – tynnu dail allanol ac yna dafellu’n fân ac ychwanegu i fowlen fâs fawr gyda phinsiad o halen a phapur
  5. Gorchuddio gyda’r cymysgedd garlleg/ chilli, ychwanegu dail coriander, dail mintys a chnau wedi torri’n fras a chymysgu. Gweini gyda thafelli cyw iâr, twrci, stêc a mwynhau.

Gadewch y chillies mas os nad ydych yn hoffi bwyd twym.


E-bost:  hello@thecookalongclwb.co.uk.

Facebook a Twitter – TheCookalongClwb

Youtube: @thecookalongclwb2449

Cookalong Clwb yn annog plant i arwain yn y gegin