Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Clerc Gwaith Adeiladu

Mae cyfle cyffrous i weithio o fewn y Tîm Gwasanaethau Landlordiaid
fel Clerc Gwaith Adeiladu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol
i’r Rheolwr Dylunio ac yn gweithio gyda’r tîm presennol sydd yn
gyfrifol am oruchwylio a sicrhau bod gwaith adeiladu a chynnal a
chadw diogel llwyddiannus a’n cydymffurfio gyda rheoliadau
technegol, a hynny ar ran Cyngor Sir Fynwy a’i Bartneriaid yn unol
gyda gofynion cytundebol y prosiect, gan sicrhau darparu gwaith
dylunio adeiladau effeithiol, arolygon, atgyweirio a gwelliannau i’r
gwasanaeth adeiladau, a hynny ar ran y Cyngor a chwsmeriaid
allanol.

Cyfeirnod Swydd: RPC94

Gradd: BAND J (£38,890 - £42,821)

Oriau: 37 Yr Wythnos

Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga

Dyddiad Cau: 10/11/2022 12:00 pm

Dros dro: Na

Gwiriad DBS: Na