Sut gall yr ysgol helpu fy mhlentyn?
Mae pob plentyn yn unigolyn. Maent i gyd yn datblygu a dysgu ar wahanol gyflymder. Gall rhai plant weld dysgu yn hawdd ac mae rhai yn ei gael yn anodd. Gyda’r help cywir gall pob plentyn ddatblygu ar ei gyflymder ei hun. Mae hyn yn golygu, mewn dosbarth, y bydd angen dulliau dysgu gwahanol, gan ystyried gallu, cryfderau, gwendidau a diddordebau’r plant. Bydd y dulliau gwahanol hyn o ddysgu yn helpu’r rhan fwyaf o blant i ddangos cynnydd. Gall rhai, fodd bynnag, fod angen cefnogaeth.
– Os ydych chi neu’r ysgol yn bryderus nad yw eich plentyn yn dangos cynnydd, mae’n bosibl bod ganddo ef neu ganddi hi anghenion addysgol arbennig. Mae’r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn nodi dull o gam i gam sy’n cydnabod bod plant yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac y gallant fod â gwahanol anghenion addysgol.
– Bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol yn helpu i benderfynu a oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Gall hefyd gynnal asesiadau o gryfderau a gwendidau penodol eich plentyn a rhoi cyngor a chefnogaeth i aelodau eraill o staff sy’n ymwneud â’ch plentyn.
– Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
– Mae gan bob ysgol Gydlynydd ADY . Mewn ysgol fechan gall y Pennaeth neu’r Dirprwy gymryd y rôl hon. Mewn ysgolion mwy efallai y bydd tîm AAA.
– Mae’r Cydlynydd ADY yn trefnu’r gefnogaeth anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol a bydd yn cadw cofnod o’r plant sydd ag AAA ac yn monitro eu cynnydd. Bydd yn eich hysbysu sut y gall yr ysgol/sut y bydd yr ysgol yn bodloni anghenion eich plentyn.
– Bydd yn ceisio sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu bodloni mor llawn â phosibl felly mae’n bwysig bod ganddo/ganddi ddealltwriaeth dda o anghenion a gofynion eich plentyn.
– Bydd y Cydlynydd ADY hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am weithredu polisi AAA yr ysgol sydd ar gael i’w weld yn yr ysgol os dymunwch.
– Gweithredu Ysgol
Os oes ar eich plentyn angen cefnogaeth o ran anghenon addysgol arbennig a’i fod/ei bod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, gelwir hyn yn Weithredu Blynyddoedd Cynnar. Os yw yn yr ysgol fe’i gelwir yn Weithredu Ysgol.
Beth yw Gweithredu Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu Ysgol?
Bydd yr ysgol neu’r lleoliad blynyddoedd cynnar yn dweud wrthych pan fydd yn meddwl bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Bydd athro eich plentyn neu’r Cydlynydd ADY yn casglu gwybodaeth gennych a phobl eraill sy’n gweithio gyda’ch plentyn. Bydd yn trafod gyda chi pa help ychwanegol neu wahanol sy’n angenrheidiol. Gelwir hyn yn Weithredu Blynyddoedd Cynnar neu Weithredu Ysgol ac mae’n gam o’r gefnogaeth sy’n seiliedig yn yr ysgol ac ni fydd yn gofyn am gyfraniad gan unrhyw un heblaw chi eich hun a’r ysgol.
Sefydlir Cynllun Addysg Unigol (CAU) a bydd yr ysgol yn trafod hyn gyda chi.
Bydd y CAU yn cynnwys gwybodaeth am:
· beth sydd ar eich plentyn ei angen
· sut y bydd hyn yn cael ei addysgu
· pwy fydd yn helpu
· pryd y bydd y cynllun yn cael ei adolygu
Cytunir ar dargedau yn seiliedig ar anghenion eich plentyn. Bydd yr ysgol yn adolygu’r CAU o leiaf ddwywaith y flwyddyn a phob tymor yn ddelfrydol. Pryd bynnag y bydd yn bosibl, dylai eich plentyn fod yn rhan o’r broses adolygu a gosod targedau newydd. Os nad yw eich plentyn yn cyfrannu yn uniongyrchol yna dylai ei farn ef neu hi gael ei hystyried yr un fath.
Dylai’r ysgol ddweud wrthych ei bod yn helpu eich plentyn bob amser a pha gynnydd a wnaed.
Bydd Gweithredu Blynyddoedd Cynnar / Gweithredu Ysgol yn parhau nes na fydd ei angen mwyach neu pan benderfynir bod ar eich plentyn angen cefnogaeth ychwanegol yn Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy / Gweithredu Ysgol a Mwy.
– Gweithredu Ysgol a Mwy
– Os bydd ar eich plentyn angen cefnogaeth o’r tu allan i’r ysgol yn ogystal â gan yr ysgol ei hun ar gyfer ei h/anghenion addysgol arbennig, gelwir hyn yn Gweithredu Ysgol a Mwy. Os yw eich plentyn mewn lleoliad blynyddoedd cynnar a’i fod angen cefnogaeth o’r tu allan i’r lleoliad blynyddoedd cynnar yn ogystal â gan y lleoliad blynyddoedd cynnar, gelwir hyn yn Weithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy.
– Beth yw Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu Ysgol a Mwy?
– Os oes pryderon nad yw’r cynnydd y mae eich plentyn yn ei ddangos yn y Gweithredu Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu Ysgol yn ddigonol, bydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, ar ôl ymgynghori â chi, yn ceisio rhagor o gyngor gan wasanaethau cefnogi allanol. Gall ofyn am help gan athro arbenigol, seicolegydd addysg neu weithiwr iechyd proffesiynol.
– Bydd CAU (Cynllun Addysg Unigol) newydd yn cael ei drefnu yn seiliedig ar y cyngor ychwanegol hwn gyda thargedau a strategaethau newydd i helpu eich plentyn i ddangos cynnydd. Bydd athro eich plentyn neu Cydlynydd ADY yr ysgol yn cadw llygad manwl ar gynnydd a bydd yn parhau i roi gwybod i chi a’ch gwahodd i gyfarfodydd adolygu pan fydd eich plentyn yn cael ei drafod.
– Bydd Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy/Gweithredu Ysgol a Mwy yn parhau hyd nes na fydd ei angen mwyach neu pan ystyrir bod cefnogaeth ychwanegol neu asesiad statudol yn briodol.