Os yw eich cartref wedi dioddef llifogydd yn sgil Storm Bert neu Storm Darragh, gallwch gael hyd at £1,000 o gymorth.
Mae Cynghorau Lleol yn gweinyddu’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cyllid yn cynnig £500 i gartrefi sydd gydag yswiriant neu £1,000 i gartrefi sydd heb yswiriant. I wneud cais am y cyllid hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais fer.
Bydd y system ceisiadau yn cau ar ddydd Mercher, 19 Chwefror 2025.
I fod yn gymwys, rhaid mai’r eiddo yw eich prif breswylfa, ac mae’r gofod byw mewnol (e.e. ystafell fyw, ystafell wely, cegin, ac ati) wedi dioddef llifogydd o ganlyniad uniongyrchol i Storm Bert neu Storm Darragh.
Mae llifogydd i erddi, garejys, tai allan, cynteddau ac ati wedi’u heithrio.
Mae cymhwysedd wedi’i gyfyngu i berchnogion/deiliaid eiddo preswyl ac nid yw ar gael i landlordiaid. Nid yw eiddo gwag ac ail gartrefi ychwaith yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol hwn.
I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw llawn
- Cyfeiriad yr eiddo yr effeithir arno
- Cyfeirnod Treth y Cyngor
- Manylion cyfrif banc y cyfrif banc y mae’r taliad i’w wneud iddo
- Manylion yswiriant cartref lle bo’n berthnasol (enw’r cwmni a rhif polisi)
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen hon, rhowch wybod i ni drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01633 644644.
I gwblhau a phrosesu eich cais, mae’n rhaid i ni wirio bod eich eiddo wedi dioddef llifogydd yn erbyn ein cofnodion.
Os na allwch symud yn ôl i’ch cartref oherwydd y llifogydd, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gostyngiad yn y Dreth Gyngor am hyd at chwe mis. Os hoffech wneud cais am y rhyddhad hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Refeniw a Rennir drwy anfon e-bost at counciltax@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01633 644630.
Cefnogaeth i fusnesau
Mewn ymateb i unrhyw ddifrod a tharfu a achosir i fusnesau gan stormydd, gall Busnes Cymru roi cymorth adfer busnes ar ôl y llifogydd. Dylai unrhyw fusnes yr effeithir arno gysylltu â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 am gymorth yn y lle cyntaf, a all ddarparu gwybodaeth ymarferol a chyngor neu gyfeirio at asiantaethau a sefydliadau perthnasol.
Mae Banc Datblygu Cymru ar gael i gefnogi busnesau bach sydd wedi cael i’w effeithio a gall elwa ar Gronfa Benthyciad Micro Cymru, sy’n cynnig benthyciadau cyflym o £1,000-£50,000.