P’un a ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu’n unigolyn sy’n ceisio caniatâd cynllunio, os yw eich datblygiad yn 100m² neu fwy o’r ardal adeiladu, bydd angen draeniad cynaliadwy i reoli dŵr wyneb ar y safle (p’un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ai peidio). Rhaid i’r SDCau hyn gael eu cynllunio a’u hadeiladu yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy a rhaid i chi ofyn am gymeradwyaeth CCS yn annibynnol o’ch caniatâd cynllunio. Dim ond ar ôl i’r ddau ganiatâd gael eu rhoi y gellir dechrau ar y gwaith adeiladu.
Nid yw’n ofynnol i ddatblygiadau / gwaith adeiladu presennol gyda chaniatâd cynllunio a roddwyd neu y bernir ei fod wedi’i roi (p’un a yw’n ddarostyngedig i unrhyw amodau o ran mater a gadwyd yn ôl ai peidio) neu y derbyniwyd cais dilys amdano ond na phenderfynwyd arno erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.
Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth CCS o hyd, os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod ynghylch mater a gadwyd yn ôl, a ni wnaed cais am gymeradwyaeth o’r mater a gadwyd yn ôl cyn 7 Ionawr 2020.
Rhaid i systemau draenio dŵr wyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â’r Safonau Statudol ar gyfer Draenio Cynaliadwy, y gellir eu gweld yma: Safonau Statudol SDCau
Gwaith Adeiladu: Diffiniad
O dan Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, diffinnir gwaith adeiladu fel unrhyw beth a wneir trwy, mewn cysylltiad ag neu wrth baratoi ar gyfer creu adeilad neu strwythur arall. Mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio os bydd yr adeilad neu’r strwythur yn effeithio ar allu tir i amsugno dŵr glaw.
Dylid nodi, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae unrhyw beth sy’n cwmpasu tir, megis patio neu arwyneb arall yn strwythur at ddibenion cymeradwyaeth CCS.
Os ydych mewn unrhyw amheuaeth ynghylch a oes angen cymeradwyaeth CCS arnoch, cysylltwch â ni.