Gallwch gadw’r eiddo’n wag ac ar gael i’w feddiannu pan fyddwch yn barod, fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd rhai camau i leihau’r risg y bydd eich eiddo yn dadfeilio, gan ddod yn niwsans i gymdogion neu’n dioddef fandaliaeth:
- Gwnewch yn siŵr bod y strwythur yn ddwrglos;
- Gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i yswirio’n ddigonol;
- Gosodwch olau diogelwch mewn mannau pŵl;
- Ffitiwch gloeon o ansawdd da i’r ffenestri a’r drysau;
- Ystyriwch ddiffodd y dŵr wrth y stopfalf a draenio’r rheiddiaduron;
Gwnewch i’r eiddo edrych fel ei fod wedi’i feddiannu drwy
- Gosod switsys amseru i oleuadau fel eu bod yn dod ymlaen gyda’r nos;
- Hongian llenni net neu fleindiau yn y ffenestri fel nad yw mor hawdd i weld tu mewn;
- Cynnal a chadw’r gerddi a’r amgylchedd y tu allan.
- Gwnewch wiriadau rheolaidd ar eich eiddo a chael gwared ar bost sy’n cronni;