Skip to Main Content

Sir Fynwy Ddiogelach

Rydym am sicrhau bod trigolion Sir Fynwy wrth eu bodd yn byw yma ac rydym eisiau helpu trigolion i gofleidio’r cyfle i ymgysylltu â’u cymuned mewn ffordd ddiogel a charedig.

Dros yr haf, rydym am sicrhau bod holl drigolion Sir Fynwy o unrhyw oedran a chefndir yn gallu teimlo y gallant fod yn ddiogel, bod yn garedig â’i gilydd a chael hwyl.

Isod, mae modd dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol a’r hyn sy’n cael ei gynnal yr haf hwn


  • Gweithgareddau gwyliau ym MonLife – Darganfyddwch fwy yma
  • Sesiynau Chwaraeon Positif i’r Dyfodol – Sesiynau Chwaraeon am Ddim yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed 11 – 18 oed, dydd Gwener 7:00pm-9:00pm, dydd Sadwrn 4:00pm – 6:00pm
  • Diwrnod Argyfwng 999, Castell Cil-y-coed, dydd Sul 6ed Awst – Darganfyddwch fwy yma
  • Mae croeso i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i alw heibio canolfannau ieuenctid Cas-gwent a Chil-y-coed. Nid yw gweithgareddau pob dydd wedi’u cynllunio o flaen llaw; yn hytrach, rydym yn cynnig gweithgareddau yn unol gyda dymuniadau’r bobl ifanc. Mae mwy o  wybodaeth ac oriau agor yn y ffeiliau isod. 

  • Cymorthfeydd yr heddlu – dyma gyfres o gymorthfeydd a fydd yn arwain at aelodau o Heddlu Gwent, partneriaid cymunedol a thrigolion yn dod at ei gilydd i drafod diogelwch cymunedol – darganfod mwy drwr Trydan Sir Fynwy Heddlu Gwent
  • Diwrnod Argyfwng 999, Castell Cil-y-coed, dydd Sul 6 Awst – Darganfod mwy yma
  • Bydd Heddlu Gwent yn ymweld ag ardaloedd o fewn Sir Fynwy gyda’r nod o gryfhau eu perthynas â’r timau plismona lleol yn ogystal ag addysgu pobl ifanc yn yr ardaloedd lleol hyn yn anffurfiol ar sut i fod yn ddiogel a sut i ofalu am eu ffrindiau.

  • Yn y cyfnod yn arwain at yr haf, bydd  Gwasanaeth Ieuenctid MonLife yn mynd i ysgolion gyda gemau a gweithgareddau hwyliog i ddathlu eu holl ymdrechion y flwyddyn ysgol honno, byddwn yn rhoi gwybod i bobl ifanc bod llawer o wasanaethau ar gael iddynt dros y yr haf a sut y gallant fanteisio arnynt, pe bai eu hangen arnynt.
  • Chwarae gemau tu allan? Meddyliwch am y bobl eraill o’ch cwmpas
  • Nid yw pob gêm yn niwsans – arhoswch a meddyliwch, a ydynt yn wrthgymdeithasol? neu ai dim ond bod yn gymdeithasol ydyn nhw.
  • Mae pob math o iaith yn bwysig – Meddyliwch am iaith eich corff, meddyliwch am eich iaith eiriol. 

Media & Downloads