Mae’n Strategaeth Atal Bwlio, a gefnogir gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Fynwy, yn anelu at ddatblygu amgylchedd lle mae plant a phobl ifanc yn llai tebygol o gael eu bwlio.
Mae gennym i gyd rôl i’w chwarae o ran creu amgylchedd a hinsawdd lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel ac yn werthfawr, a lle na ellir bwlio ffynnu. Mae canllawiau pellach ar daclo bwlio mewn ysgolion, ‘Parchu eraill’, ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Grŵp Atal Bwlio Sir Fynwy
Mae’r Grŵp Atal Bwlio yn gweithio i wella dealltwriaeth o beth yw bwlio ymysg plant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr. Mae’r grŵp wedi gweithio gyda Chymunedau’n Gyntaf a grwpiau o blant a phobl ifanc i greu dwy daflen wybodaeth, gan ddefnyddio diffiniad Sir Fynwy o fwlio:
‘Cynnig parhaus a bwriadol i frifo neu fychanu rhywun sy’n aml yn gynnwys anghydbwysedd grym lle mae unigolyn neu grŵp o bobl dro ar ôl tro ac yn fwriadol yn achosi niwed emosiynol a/neu gorfforol i unigolyn neu grŵp o bobl arall.’
Mae’r taflenni ‘Sut i gadw’n hapus a theimlo’n ddiogel’ wedi eu dylunio ar gyfer plant a phobl ifanc. Gweler isod i’w llwytho i lawr: