Tu ôl i’r adeilad un llawr yn y maes parcio yn Neuadd y Sir, Brynbuga mae darn o dir a gafodd ei drawsnewid o anialwch gwyllt nad oedd neb yn ei garu i fod yn ardal gyda gwenynfa, ardaloedd gerddi peillio, tŷ gwydr wedi’i adnewyddu a 9 gwely uchel ar gyfer tyfu bwyd cymunedol. Daeth y trawsnewidiad oherwydd gweledigaeth a llawer o waith caled gan gydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy a Chyllid Natur derbyniol iawn gan Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwenynwyr Gwent, prosiectau Fy Niwrnod Fy Mywyd o’r Fenni a Threfynwy ynghyd â Mencap Cas-gwent a’r holl wirfoddolwyr garddio o Gyngor Sir Fynwy – hoffem wybod os hoffai unrhyw un arall weithio yn yr ardal yma, yn plannu, tyfu, chwynnu a chadw’r ethos o ddulliau garddio organig i helpu darparu cynefinoedd a bwyd ar gyfer yr holl beillwyr.