Craffu Effeithlon…..A yw craffu effeithlon yn edrych fel hyn?
Nid yw Craffu da yn wyddor roced, ond gall hyd yn oed baratoadau trylwyr arwain at ganlyniad annymunol yn y cyfarfod. Pam? Oherwydd y gall craffu fod yn weithgaredd anodd ei ragweld ac mae graddau y gallwn ragweld ‘amrywion anodd eu rhagweld’. Mae sirhau cyfarfodydd craffu effeithlon yn golgyu fod angen i ni ragweld ‘amrywion na fedrur eu rhagweld’ a’u trin orau ag y gallwn neu ar ddiwnod y cyfarfod.
Cyngor ymarferol ar gyfer Craffwyr…
Paratoi!
- Beth yw’r canlyniad a ddymunir?
- Sut i sicrhau’r canlyniad a ddymunir?
- Beth yw’r ‘amrywion anodd eu rhagweld’ a sut fyddwn ni yn eu trin?
Gweithredu!
- Deall y sefyllfa yn iawn, cael cyngor cytbwys …
- Gwerthuso goblygiadau gwahanol lwybrau gweithredu – troi i’r dde, troi i’r chwith, a hyd yn oed dro pedol!
- Ymrwymo i ddatrysiad mae’r pwyllgor yn fodlon gydag ef ac y gall cyfiawnhau
Hunan-werthuso!
- Pa mor llwyddiannus oeddem ni fel swyddogaeth craffu – wnaethon ni gyflawni ein canlyniad?
- Beth oedd o’i le a pham … a oes unrhyw beth i’w achub?
- Sut y gallwn wella ein perfformiad?
Mae’n bwysig cynllunio cyn cyfarfodydd oherwydd mae paratoi yn ein galluogi i ragweld sut y gallwn drin ‘amrywion anodd eu rhagweld’. Mae sut y gweithredwn ar y dydd yn hollbwsig. Mae angen i aelodau deimlo’n fodlon y cafodd yr holl opsiynau eu dadansoddi cyn ymrwymo i lwybr gweithredu. Er bod hunan-werthuso wedi cynyddu mewn poblogrwydd, anaml mae craffwyr yn neilltuo amser digonol i’w wneud. Fodd bynnag, os ydym o ddifrif am graffu llwyddiannus, mae angen i ni ddeall lle gwnaethom gamgymeriadwu er mwyn eu hunioni … ac mae angen i ni fanteisio ar unrhyw gyfle i’n helpu i wella – p’un ai yw hynny drwy hyfforddi neu arsylwi cymheiriad. Ac yna mae ymarfer!
Hazel Ilett, Rheolwr Craffu