Bydd y Swyddog Lles Addysg yn gweithio gyda’r ysgol i fonitro a chadw golwg ar bresenoldeb disgyblion bob tymor. Byddant yn trafod effaith ymyriadau i wella presenoldeb disgyblion. Byddant yn trafod unrhyw ddisgyblion gyda phresenoldeb is na 95 y cant gyda’r ysgol.
Os yw presenoldeb yn parhau i fod yn bryder, er gwaethaf ymyriadau gan yr ysgol, gall yr ysgol wneud atgyfeiriad i’w Swyddog Lles Addysg a fydd yn gweithio gyda’r ysgol ac yn cwrdd â rhieni/yr ysgol a gwasanaethau eraill os yn briodol i geisio datrys y sefyllfa.
Mae gan Sir Fynwy Wasanaeth Lles Addysg ragweithiol iawn a bydd yn ceisio mynd i’r afael â materion presenoldeb trwy ddarparu cyngor a chefnogaeth i osgoi’r angen am gamau cyfreithiol.
Fodd bynnag, os nad oes gwelliant mewn presenoldeb, bydd camau cyfreithiol yn cael eu hystyried.