Croeso i Benthyg Sir Fynwy! Eich llyfrgell leol o bethau!

Nod llyfrgell o bethau yw caniatáu i bobl:
- benthyca pethau sydd eu hangen arnynt ond nad ydynt yn berchen arnynt, am gost isel, gan arbed arian a lle yn eu cartrefi
- cyfrannu pethau y maent yn berchen arnynt ond nad oes eu hangen arnynt, gan gyfrannu at dargedau lleihau gwastraff cenedlaethol
- cyfarfod i rannu gwybodaeth a sgiliau gyda’i gilydd, gan gynyddu gwydnwch cymunedol
Mae gan Benthyg Cymru un nod syml; i wneud benthyca mor hawdd â dod allan am dorth o fara
Beth mae Benthyg yn ei olygu?
Gair Cymraeg sy’n golygu benthyg neu fenthyg yw Benthyg (ynganu ben-thig).
Ble gallaf ddod o hyd i’m Benthyg lleol?
Mae dwy gangen ar agor yn y Sir, sef yn Y Fenni a Threfynwy. Bydd canghennau Cas-gwent a Chil-y-coed yn agor cyn hir.
Ewch i’r wefan i weld yr hyn y gallwch ei fenthyg ac o ba gangen – Benthyg Sir Fynwy >
Benthyg Y Fenni
Canolfan Gymunedol y Fenni
E-bost: benthygabergavenny@gmail.com
Facebook: Benthyg Abergavenny Facebook
Benthyg Trefynwy
Uned 5, Y Stablau, Canolfan Gymunedol Bridges
E-bost: benthygmonmouth@gmail.com
Facebook: facebook.com/BenthygMonmouth
Benthyg Cil-y-coed
Together Works, Ffordd Woodstock, Cil-y-coed
E-bost: caldicotbenthyg@gmail.com
Facebook: (Cil-y-coed) Facebook
Ewch i: https://monmouthshire.benthyg.cymru/
Pwy sydd yn gyfrifol am y prosiect?
MaeBenthyg Sir Fynwy yn rhan o rwydwaith Benthyg Cymru.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau a sefydliadau yn Sir Fynwy.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau economi gylchol yn Sir Fynwy cysylltwch â:
E-bost:ClaudiaBlair@monmouthshire.gov.uk