Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gallu cynnig cymorth ariannol i berchenogion a landlordiaid/datblygwyr eiddo gwag i’w helpu gydag unrhyw waith adnewyddu sydd ei angen er mwyn ailddechrau defnyddio eiddo.

Mae’r cymorth ar ffurf benthyciadau di-log ac mae ar gael drwy fenter Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio’r benthyciadau hefyd ar gyfer eiddo masnachol sy’n cael eu troi’n ddefnydd preswyl. Rhaid i’r eiddo fod yn wag am o leiaf 6 mis. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.