Mae plant o dan 3 mlwydd oed yn gymwys am fathodyn os ydynt yn cwrdd ag un o’r meini prawf neu’r ddau faen prawf canlynol ac yn medru cynnig tystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol:
- Plentyn sydd yn gorfod, yn sgil cyflwr meddygol, cludo cyfarpar swmpus ond sy’n methu cael ei gludo gyda’r plentyn heb drafferth sylweddol. Mae esiamplau o hyn yn cynnwys peiriannau anadlu, peiriannau sugno, pympiau bwydo, offer rhoi ocsigen, offer monitro ocsigen, neu unrhyw gastiau ac unrhyw offer meddygol perthnasol ar gyfer dysplasia’r clun.
- Plentyn sydd yn gorfod, yn sgil cyflwr meddygol, bod yn agos at gerbyd drwy’r amser fel bod modd rhoi triniaeth i’r plentyn yn y cerbyd neu bod modd cludo’r plentyn yn gyflym yn y cerbyd i le penodol er mwyn derbyn triniaeth. Mae enghreifftiau o hyn yn medru cynnwys plant sydd â thracheostomies, epilepsi difrifol, plant sydd â diabetes hynod ansefydlog a phlant sydd â salwch angheuol sydd ond yn medru profi cyfnodau byr o fywyd yn yr awyr agored ac angen medru dychwelyd adref yn gyflym.
Os yn llwyddiannus, bydd bathodyn yn cael ei roi tan y diwrnod ar ôl pen-blwydd y plentyn 3 mlwydd oed. Wedi troi’n 3 mlwydd oed, bydd angen cwblhau cais newydd.