MAE’N DROSEDD CAMDDEFNYDDIO BATHODYN GLAS
Pethau pwysig i’w cofio:
- Mae’n rhaid i chi fod yn deithiwr neu’n yrrwr y cerbyd bob amser pan ddangosir Bathodyn Glas.
- Peidiwch gadael i neb arall ddefnyddio eich bathodyn i gael parcio am ddim neu barcio mewn lle gwell.
- Ni all gofalwyr, teulu na ffrindiau ddefnyddio’r bathodyn hyd yn oed pan maent yn gwneud busnes ar eich rhan.
- Peidiwch â defnyddio’r bathodyn pan mae ei ddyddiad wedi dod i ben.
- Peidiwch â defnyddio’r bathodyn pan mae’r wybodaeth arno yn anghywir neu’n amhosibl ei ddarllen, er enghraifft os yw wedi colli ei liw.
- Peidiwch copïo neu adael i neb arall gopïo eich bathodyn.
- Mae’n drosedd i chi neu berson arall gamddefnyddio Bathodyn Glas, a gall fod dirwy o hyd at £1000 a diddymu’r bathodyn ar unwaith.
- Gall swyddogion gorfodaeth parcio atafaelu cerdyn os ydynt yn credu’n rhesymol ei fod yn cael ei gamddefnyddio neu’n ffug, os yw wedi dod i ben, eisoes wedi ei ganslo neu y dylid fod wedi ei ddychwelyd.
Adrodd camddefnydd Bathodyn Glas
Mae’r bathodynnau arddull newydd yn gysylltiedig gyda chronfa ddata o ddefnyddwyr cymwys yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ei gwneud yn llawer haws i’r heddlu, wardeiniaid parcio a swyddogion gorfodaeth unrhyw le yn y wlad i ddilysu os yw bathodyn yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon ai peidio.
Cysylltwch â ni os ydych yn amau fod bathodyn glas yn cael ei gamddefnyddio. Caiff pob adroddiad ei drin yn gyfrinachol.I fedru ymchwilio, ceisiwch gael cynifer o fanylion ag sydd modd o’r bathodyn a ddangosir (rhif cyfres, dyddiad dod i ben ac yn y blaen) i’n helpu i ymchwilio a gweithredu os dangosir y cafodd y bathodyn ei gamddefnyddio
I’ch helpu gyda’ch adroddiad mae nifer o wahanol fathau o dwyll neu gamddefnyddio bathodyn glas.
Camddefnydd gan ddeiliad y bathodyn
- Defnyddio bathodyn nad yw’n ddilys mwyach.
- Defnyddio bathodyn yr adroddwyd ei fod wedi ei golli neu ei ddwyn.
- Defnyddio bathodyn y mae’r Awdurdod Lleol wedi gofyn iddo gael ei ddychwelyd.
- Gadael i gyfaill neu berthynas ddefnyddio’r bathodyn.
- Defnyddio copi o fathodyn.
- Newid y manylion ar y bathodyn, er enghraifft, y dyddiad dod i ben.
- Gwneud cais twyllodrus (rhoi gwybodaeth heb fod yn wir ar y cais) neu ddefnyddio bathodyn a gafwyd drwy dwyll.
Camddefnyddio gan drydydd parti
- Defnyddio bathodyn rhywun arall (gyda neu heb wybodaeth deiliad y bathodyn) heb i ddeiliad y bathodyn fod yn bresennol
- Defnyddio bathodyn sy’n eiddo rhywun arall sydd wedi marw
- Copïo, newid neu wneud bathodynnau
- Defnyddio bathodyn a gafodd ei ddwyn
- Defnyddio bathodyn ffug