Gall unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os ydynt yn cael adferiad o, neu’n disgwyl triniaeth ar gyfer salwch neu anafiadau difrifol.
Enghreifftiau o hyn yw:
- Adfer o doriadau cymhleth i goes fel y rhai a gaiff eu rheoli gyda gosodwyr allanol am gyfnodau ymhell dros flwyddyn.
- Adfer o strôc neu anaf pen sy’n effeithio ar y gallu i symud.
- Adfer o drawma i asgwrn y cefn sy’n effeithio ar y gallu i symud.
- Derbyn triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser, sy’n effeithio ar y gallu i symud.
- Adfer o neu’n disgwyl cael cymal newydd e.e. clun, glin, sy’n effeithio’n ddifrifol ar y gallu i symud.
Mewn achosion lle mae’n glir na fydd y nam ar yr ymgeisydd yn gwella o fewn 12 mis, ni chyhoeddir Bathodyn Glas.
Tystiolaeth o Gymhwyster
Mae’r cymhwyster am Fathodyn Glas dros dro yn seiliedig ar i’r ymgeisydd fod yn methu cerdded neu’n cael anhawster sylweddol yn cerdded.
Mae angen tystiolaeth gan arbenigwyr fel:
- Timau ailalluogi yr ysbyty sy’n ymwneud â gofal y cleient
- Gwasanaethau cymdeithasol Awdurdod Lleol sy’n cynorthwyo gydag adferiad y claf
- Swyddogion iechyd sy’n darparu gwasanaethau arbenigol