Os ydych yn ailymgeisio, argymhellir eich bod yn gwneud hynny tua 8 wythnos cyn fod eich bathodyn cyfredol i ddod i ben.
Ni fyddwn yn cyhoeddi llythyrau atgoffa o hyn ymlaen oherwydd newid mewn systemau.
Os yw’ch ail gais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn eich bathodyn glas newydd tua 10-14 diwrnod cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben.
Byddwch angen y dilynol i ailymgeisio am Fathodyn Glas:
- Manylion eich Bathodyn Glas presennol.
- Llun lliw digidol diweddar neu lun maint pasbort wedi ei lofnodi. Dylai’r ffotograff ddangos wyneb ac ysgwyddau llawn yr ymgeisydd fel ei bod yn rhwydd adnabod y deiliad bathodyn.
- Rhif Yswiriant Gwladol.
- Tystiolaeth o adnabyddiaeth (e.e. pasbort/ tystysgrif geni/mabwysiadu, trwydded yrru ddilys, tystysgrif partneriaeth/diddymu neu dystysgrif priodas/ysgaru)
- Tystiolaeth o gyfeiriad (e.e. Bil Treth Gyngor neu gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol i wirio’r gronfa ddata Treth Gyngor neu Gofrestr Etholiadol )
- Os ydych yn llenwi cais ar ran rhywun dan 16 oed, gallwch roi caniatâd i’r awdurdod lleol wirio cofnodion ysgol i gadarnhau eu cyfeiriad.
- Prawf o gymhwyster os ydych yn gwneud cais dan y meini prawf awtomatig.
Gallwch wneud cais ar-lein yn www.gov.uk neu ofyn i Gyngor Sir Fynwy am ffurflen gais.
Os gwnewch gais ar-lein, gallwch olrhain eich cais a diweddaru eich manylion neu gallwch ofyn am ffurflen gais gan unrhyw un o’r dilynol:
Ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01633 644644
Drwy e-bost: contact@monmouthshire.gov.uk
Drwy ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol