Newidiadau mewn dyddiau casglu Ailgylchu a Gwastraff
Bydd eich dyddiau casglu yn newid o 21 Hydref 2024 ymlaen. Bydd pob cartref yn derbyn llythyr yr wythnos hon yn rhoi eu dyddiau casglu newydd. Gofynnir i chi ddilyn y canllawiau yn eich llythyr. Gwiriwch eich diwrnodau casglu ar-lein –https://maps.monmouthshire.gov.uk/
Bagiau ailgylchu amldro
Caiff ymestyn bagiau ailgylchu amldro ar draws Sir Fynwy i gyd ei orffen cyn Nadolig 2024. Gofynnir i chi aros i fagiau amldro gael eu dosbarthu yn eich ardal. Unwaith y cawsoch y bagiau amldro newydd, gofynnir i chi eu defnyddio o’ch casgliad ailgylchu nesaf.Oherwydd y newidiadau yn y ffordd yr ydym yn casglu, bydd holl breswylwyr Sir Fynwy yn derbyn llythyr yn cadarnhau eu dyddiau casglu newydd. Bydd newidiadau ar gyfer y rhan fwyaf o breswylwyr Sir Fynwy. Os cawsoch lythyr yn cadarnhau eich dyddiau, gofynnir i chi roi eich gwastraff mas ar y dyddiau a nodir o 21 Hydref 2024.
Pam ein bod ni’n newid i fagiau aml-dro?
Cafodd bagiau amldro eu treialu gyda dros 4000 o aelwydydd yn Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2019. Ar hyd y cyfnod treialu fe wnaethom gasglu llawer o ddata yn cynnwys adborth gan breswylwyr ar y system casglu newydd, amseriadau rowndiau casglu a phrofion marchnad.
Roedd canlyniadau’r arbawf yn llwyddiannus ac mae bagiau amldro eisoes wedi’u cyflwyno i ardaloedd bach eraill, gyda chyfanswm o dros 15,000 o aelwydydd bellach yn defnyddio bagiau amldro.
Cytunwyd y bydd bagiau ailddefnyddio yn cael eu cyflwyno yn lle bagiau plastig ar gyfer casgliadau ailgylchu.
Byddwn yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno bagiau amldro ar draws Sir Fynwy gyfan cyn Nadolig 2024.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd a rydym yn ymroddedig i ddefnyddio plastig untro. Bydd y bagiau newydd yn gostwng faint o fagiau plastig untro a ddefnyddiwn, gan felly leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Mae hefyd fanteision ariannol i ddefnyddio bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu:
Mae’n well gan y farchnad ailgylchu dderbyn deunydd yn rhydd, felly dylai tynnu’r bagiau plastig ostwng y gost prosesu ac mae’n ein galluogi i sicrhau gwell gwerth am arian.
Mae prynu bagiau plastig untro yn costio tua £180,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Bydd yn costio llai i’w cyflenwi lle bynnag y gellir defnyddio bagiau amldro lawer iawn o weithiau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os ydych eisoes yn derbyn bagiau ailgylchu amldro, caiff y rhain yn awr eu defnyddio ar bob casgliad ailgychu ac ni fyddwn bellach yn casglu bagiau plastig untro o’ch cartref.
Os cawsoch lythyr yn esbonio y byddwch yn defnyddio bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu ond os nad ydych eisoes wedi cael rhai, defnyddiwch y ffurflen islaw i wneud cais i’r bagiau gael eu dosbarthu.
Bydd gweddill Sir Fynwy yn newid i fagiau amldro erbyn Nadolig 2024. Byddwch yn derbyn taflen gyda gwybodaeth bwysig ar yr un pryd ag y caiff y bagiau eu dosbarthu i chi. Bydd y bagiau’n cael eu dosbarthu dros gyfnod, ac felly mae’n bosibl y byddwch yn sylwai ar gartrefi yn eich ardal leol na sy’n defnyddio’r bagiau amldro yn ystod y cyfnod hwn.
Cais i fagiau gael eu dosbarthu / Ymholiadau am y newidiadau i’ch diwrnodau casglu.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen yma i roi adborth ar y newidiadau dydd a gafodd eu gwneud.
Gofynnir i chi aros i fagiau amldro gael eu dosbarthu yn eich ardal.
Caiff bagiau eu dosbarthu ar draws Sir Fynwy i gyd rhwng 21 Hydref a Nadolig 2024. Dim ond os ydych eisoes yn defnyddio bagiau amldro neu fod eich cymdogion wedi cael bagiau a’ch bod chi heb gael cyflenwad y dylech ofyn am fag yn lle.
Yn lle hynny gallwch ffonio 01633 644644 neu ymweld â’ch Hyb Cymunedol leol i ofyn am i fagiau gael eu dosbarthu i chi.
Cwestiynau Cyffredin
Pam newid? ▼
Cafodd bagiau amldro eu treialu’n llwyddiannus gyda dros 4000 aelwyd yn Sir Fynwy ers mis Tachwedd 2019.
Ym mis Mai fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy ddatgan Argyfwng Hinsawdd, gyda chefnogaeth unfrydol gan gynghorwyr. Un o’r camau y cytunwyd arnynt yw gostwng ein defnydd o blastig untro a newid i ddefnyddio bagiau ailgylchu amldro er mwyn gostwng faint o fagiau plastig untro a ddefnyddiwn, gan fod o fudd i’r amgylchedd.
Mae’n well gan y farchnad ailgylchu dderbyn y deunydd yn rhydd felly dylai tynnu ein bagiau plastig ostwng costau prosesu. Gellir defnyddio bagiau amldro drosodd a throsodd ac felly byddant yn costio llai i’w cyflenwi na’r bagiau plastig untro a ddefnyddiwn ar hyn o bryd.
Beth oedd canlyniad y cynllun treialu ac arolwg cyhoeddus ar ailgylchu? ▼
Mae’r ffordd newydd o gasglu ailgylchu wedi gweithio’n dda i’n criwiau casglu ac mae wedi gostwng ein defnydd o blastig untro.
Cysylltwyd â phreswylwyr a gymerodd ran yn y cynllun treialu ym mis Mai 2020 gydag arolwg i gasglu adborth cyhoeddus. Cawsom 800 ymateb o blith 2000 cartref – diolch yn fawr iawn i chi am eich ymatebion.
Roedd 68% o’r preswylwyr hynny yn hapus i barhau i ddefnyddio bagiau amldro yn y dyfodol.
Cytunodd cynghorwyr i newid yn barhaol i bagiau amldro ar gyfer casgliadau ailgylchu yn Sir Fynwy. Anelwn i bob cartref yn Sir Fynwy fod yn defnyddio bagiau ailgylchu amldro erbyn diwedd 2021. Gwneir hyn mewn camau felly efallai y byddwch yn gweld nad yw cartrefi yn eich ardal leol yn defnyddio bagiau amldro yn ystod y cyfnod hwn.
A yw’r bagiau amldro yn dod yn lle bagiau plastig untro?
Ydynt, bydd bagiau ailgylchu amldro yn dod yn lle bagiau plastig untro presennol ar gyfer eich casgliadau ailgylchu wythnosol. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich bagiau amldro, ni fyddwn wedyn yn casglu ailgylchu yn yr hen fagiau plastig untro.
Pwy sy’n defnyddio’r bagiau amldro? ▼
Ar hyn o bryd, mae tua 50% o ailgylchu Sir Fynwy yn cael ei gasglu mewn bagiau amldro ac rydym bellach wedi dechrau dosbarthu i’r cartrefi sy’n weddill a bydd holl ailgylchu Sir Fynwy yn cael ei gasglu mewn bagiau amldro cyn Nadolig 2024.
Pam nad wyf wedi cael bag amldro? ▼
Os ydych wedi derbyn taflen ond nid bagiau, llenwch y ffurflen gais am fagiau amldro. Os nad ydych wedi derbyn unrhyw ohebiaeth am y bagiau ailgylchu amldro ac nad ydych wedi derbyn bagiau amldro, nid ydym wedi dechrau cyflwyno’r bagiau yn eich ardal eto.
Os yw eich cymdogion wedi derbyn bagiau amldro a’ch bod yn credu eich bod wedi cael eich colli, llenwch y ffurflen uchod a’i hanfon atom.
Sut mae defnyddio’r bagiau? ▼
Gallwch ysgrifennu enw/rhif eich tŷ yn y blwch ar y bagiau fel eu bod yn rhwydd eu hadnabod.
Rhowch eich ailgylchu glân tu mewn i’r blwch cywir.
Defnyddiwch y sêl Velcro i gau’r bag, mae hyn yn golygu y bydd yr ailgylchu yn aros yn sych a’i gau’n ddiogel. Mae pwysau yn y bagiau fel nad ydynt yn chwythu.
Rhowch eich bagiau yn y lle arferol erbyn 7am ar fore’r casgliad.
Faint o fagiau fyddaf yn eu cael? ▼
Dosberthir un bag coch ac un bag porffor i bob cartref. Bydd pob bag yn dal cymaint o ddeunydd ag ailgylchu â dau o’r bagiau plastig a gyflenwyd yn flaenorol. Gwyddom y bydd y capasiti hwn yn ddigon ar gyfer y rhan fwyaf o aelwydydd. Gellir gwneud darpariaeth ar gyfer aelwydydd sy’n cynhyrchu mwy o ailgylchu. Cysylltwch â ni os ydych yn cael unrhyw broblemau.
Sut fyddaf yn gwybod pa un yw fy mag i? ▼
Mae blwch ar y bagiau lle gofyn i breswylwyr roi enw/rhif eu tŷ arno gyda phen marcio barhaol fel nad ydynt yn cymysgu.
Lle dylwn i gadw fy mag? ▼
Dewch â’ch bagiau i mewn o ymyl y palmant ar ôl ei gasglu a’u cadw yn eich cartref.
Beth ddylwn i wneud gyda fy hen fagiau ailgylchu plastig? ▼
Ni chaiff yr hen fagiau coch a phorffor untro eu defnyddio bellach ar gyfer casgliadau ailgylchu. Gallwch cadw’r bagiau ar gyfer eich defnydd personol neu gallwch eu dychwelyd i ni drwy ei rhoi yn ymyl eich bagiau ailgylchu untro (unwaith eu bod gennych) ar eich diwrnod casglu ailgylchu nesaf. Gallwch hefyd ddychwelyd y bagiau i’ch Hyb Cymunedol lleol.
A fydd fy nyddiau casglu yn newid? ▼
Er mwyn cwblhau’r broses o gyflwyno bagiau, bu’n ofynnol i ni newid diwrnodau casglu ar gyfer y rhan fwyaf o Sir Fynwy. Yn sgil natur arafach y gwaith o gasglu, byddwn nawr yn casglu ein gwastraff bwyd mewn cerbydau casglu pwrpasol ar gyfer Sir Fynwy yn hytrach nag ailgylchu. Felly, mewn ymgais i gadw casgliadau o’n ffrydiau gwastraff gyda’i gilydd lle bo’n bosibl, rydym wedi newid y dyddiau i wella’r ffordd y mae gwastraff y rhan fwyaf o wastraff yn cael ei gasglu ac wedi cynyddu canran y casgliadau un diwrnod ar draws Sir Fynwy. Yn anffodus, ni allwn gynnig casgliadau un diwrnod i’r holl breswylwyr a bydd gan rai ardaloedd gasgliadau lluosog – os oes gennych broblemau gyda’ch diwrnod casglu chi, llenwch y ffurflen adborth uchod.
Beth ddylwn i ei roi yn y bagiau? ▼
Yr un eitemau ag oedd yn eich hen fagiau coch a phorffor ddylai fynd i’r bag. Bag coch – papur a chardfwrdd. Bag porffor – tuniau a caniau, poteli plastig, tybiau plastig, hambyrddau a bocseidiau a chartonau. Glanhewch olion bwyd o’ch ailgylchu os gwelwch yn dda. Mae’n rhaid i’r eitemau fynd yn rhydd i fag amldro. Peidiwch rhoi’r hen fagiau ailgylchu tu mewn i’ch bag amldro. Dylai cartonau (e.e. tetra paks) yn awr fynd i’r bag ailgylchu porffor.
Mae fy mag yn dweud cartonau (e.e. tetra paks) i fynd yn y bag coch sy’n wahanol i’r daflen yma? ▼
Mae geiriau ar y cyflenwad gwreiddiol o fagiau yn awgrymu y dylai cartonau fynd yn y bag coch. Adeg archebu’r bagiau ar gyfer y cynllun treialu yn 2019 byddai’r prosesyddion ailgylchu yn cymryd cartonau gyda’r papur a’r cardfwrdd.
Mae’r farchnad ailgylchu wedi newid ers hynny ac argymhellir yn awr fod cartonau’n mynd yn y bag porffor fel y gellir eu gwahanu’n rhwyddach o’r deunyddiau eraill ac felly caiff mwy ei ailgylchu.
Rhowch y cartonau yn y bag porffor.
Beth fedraf ei wneud gyda charpion papur? ▼
Gellir ailgylchu carpion papur yn y bag coch ond gofynnir i chi ei roi mewn blwch cardfwrdd wedi ei selio (e.e. blwch grawnfwyd) neu mewn amlen bapur. Mae hyn yn atal y carpion rhag glynu yn y bag ac yn gostwng y siawns y bydd yn syrthio allan yn ystod y casgliad.
Rwyf yn ei chael yn anodd i gario’r bagiau, sut fedrwch chi helpu? ▼
Os cewch anawsterau yn caro’r bagiau, cysylltwch â ni a gall ein swyddogion ailgylchu helpu.
Beth ddylwn i wneud os oes gennyf lawer o gardfwrdd? ▼
Dylai unrhyw gardfwrdd gael ei agor mas a’i roi tu mewn i’ch bag ailgylchu coch os oes modd. Os na allwch roi’r cardfwrdd tu mewn i’ch bag, gallwch roi cardfwrdd wedi ei agor mas hyd at 1m2 i’w gasglu wrth ymyl eich bag ailgylchu.
Beth fydd yn digwydd os caiff fy ailgylchu ei halogi? ▼
Os yw bag ailgylchu yn cynnwys eitemau anghywir rhoddir sticer arno i ddangos beth oedd yr eitemau anghywir ac ni chânt eu gwagio. Dylai preswylwyr dynnu’r halogiad a chaiff yr ailgylchu ei gasglu ar eich gasgliad nesaf. Bydd swyddog ailgylchu ar gael os ydych angen help gyda’ch ailgylchu.
Nadolig ▼
Ar rai adegau o’r flwyddyn yn cynnwys y Nadolig sylweddolwn y bydd llawer o gartrefi yn cynhyrchu mwy o ailgylchu. Gellir rhoi mwy o ailgylchu mas un ai o fewn blwch cardfwrdd neu flwch plastig y bydd y criwiau yn ei wagu a’i ddychwelyd (cadwch ddeunydd coch a phorffor ar wahân os gwelwch yn dda). Gellir agor blychau cardfwrdd mas a’u rhoi yn ymyl eich bagiau. (Uchafswm maint 1m2).
Sut mae rhoi eich hysbysu am gasgliad a fethwyd? ▼
Rhowch wybod am wastraff nas casglwyd ar ôl 4pm ar y diwrnod casglu yn unig. Sylwch y bydd eich gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ar amser gwahanol o’r dydd i’ch gwastraff ailgylchu.
Gallwch adrodd casgliad a gollir ar ap Fy Sir Fynwy neu wefan, ffoniwch 01633 644644 neu ymweld â’ch Hyb Cymunedol lleol. Byddwch yn derbyn diweddariad ar eich adroddiad os ydych yn cofrestru ar system “Fy Sir Fynwy”.
Rwyf angen bagiau ychwanegol? ▼
Rydym yn cynghori pob preswylydd i aros cyn gofyn am ragor o fagiau. Mae hyn oherwydd bod gan y bagiau fwy o gapasiti na’r hen fagiau plastig untro. Os ydych yn dal i gredu bod angen mwy o fagiau arnoch ar ôl ychydig wythnosau, llenwch y ffurflen uchod. (Gellir gosod ailgylchu ychwanegol naill ai mewn blwch cardbord neu flwch plastig sbâr a bydd y criwiau’n ei wagio a’i ddychwelyd (cadwch ddeunydd coch a phorffor ar wahân).
A allaf gasglu bagiau y gellir eu hailddefnyddio o’r Hyb/Safleoedd Casglu?
Ni fyddwn bellach yn cyflenwi bagiau ailgylchu i’r Safleoedd Casglu; dim ond ein bagiau gwastraff bwyd fydd y rhain bellach yn eu cynnig. Bydd yr Hybiau yn stocio bagiau unwaith y bydd y gwaith o ddanfon y bagiau newydd i breswylwyr wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr 2024. Bydd yr holl fagiau a gesglir gan breswylwyr yn cael eu cofnodi ac os bydd preswylydd yn casglu swm anarferol o uchel o fagiau, bydd un o’n swyddogion gwastraff yn ymweld â hwy. Dewch o hyd i’ch Hyb agosaf yma https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-and-libraries/