Skip to Main Content

Gan gydnabod y nifer cynyddol o blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a lleoliadau, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth (AET) i gynllunio a chyflwyno rhaglen i wella addysg ar gyfer plant a phobl ifanc awtistig yn Sir Fynwy.

Wrth galon y gwaith hwn mae’r nod i ddatblygu system addysgol wirioneddol gynhwysol yn Sir Fynwy.

  • Pob plentyn a pherson ifanc awtistig yn Sir Fynwy yn profi addysg gadarnhaol a chynhwysol sy’n cefnogi eu llesiant ac yn rhoi cyfle cyfartal.
  • Rhieni a gofalwyr pobl ifanc artistig yn cael profiad cadarnhaol a chydweithredol o leoliadau addysg sy’n cefnogi a gwella eu llesiant.
  • Ymwreiddio llais plant a phobl ifanc;
  • Cyflwyno hyfforddiant ansawdd uchel yn defnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar adnoddau ac a gynhyrchwyd ar y cyd, A gan weithio gyda Phencampwyr Awtistiaeth, feithrin galluedd ymysg yr holl staff.

Daeth ein partneriaeth â staff awdurdodau lleol, ymarferwyr addysgol, rhieni a gofalwyr, ynghyd, wrth ochr arbenigedd yr Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth a gyda chefnogaeth Canolfan Addysg ac Ymchwil Awtistiaeth.

Mae paneli o bobl ifanc awtistig o ysgolion uwchradd Sir Fynwy a’r ysgol 3-19 wedi sicrhau fod eu profiad bywyd a’u harbenigedd wrth graidd y rhaglen.

Mae’r bobl ifanc hyn wedi dylanwadu ar gynllun y prosiect a’r adnoddau hyfforddi a bydd ganddynt rôl sy’n parhau tu ôl i oes y prosiect.

Mae gan holl ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar Sir Fynwy Bencampwr Awtistiaeth penodol.

Bydd Pencampwyr Awtistiaeth yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu arfer da mewn awtistiaeth ac ymwreiddio deunyddiau a dulliau gweithredu yr AET.

Cafodd Rhwydwaith Pencampwyr Awtistiaeth ei sefydlu fel ffordd o rannu a hyrwyddo arfer da mewn awtistiaeth.

Mae’r AET wedi gweithio gyda Sir Fynwy i ddatblygu Rhaglen Datblygu Proffesiynol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar ac Ysgolion gyda mewnbwn ac ymgyfraniad gweithwyr proffesiynol a rhieni a gofalwyr o bob rhan o Gymru.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau hyfforddi, pecynnau cymorth ymarferol, fideos hyfforddiant ac egwyddorion rhieni  gofalwyr, gyda phobl ifanc o Gymru a’u profiad bywyd yn greiddiol iddi.

Mae pump Canolfan Adnoddau Arbenigol Sir Fynwy wedi derbyn hyfforddiant pwrpasol ar awtistiaeth a meysydd penodol o ddiddordeb yn cynnwys anghenion cyfathrebu, merched awtistig, anghenion synhwyraidd, a phryder a gofid.

Mae tîm hyfforddiant Awtistiaeth yn Ysgolion a Lleoliadau Sir Fynwy yn cynnwys staff o’r Tîm Darpariaeth Arbenigol ac Allgymorth yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg,
  • Tîm Cefnogi Addysg,
  • Tîm Blynyddoedd Cynnar, a
  • Chanolfannau Adnoddau Arbenigol. 

Cynigiwyd hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ‘Gwneud Synnwyr o Awtistiaeth’ i bob ysgol a lleoliad yn Sir Fynwy yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (2024-25).

Gwefan AET: Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth 

Porth Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy ar gyfer gweithwyr proffesiynol: Awtistiaeth yn Ysgolion a Lleoliadau Sir Fynwy (sharepoint.com)