Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal arolwg ar gyfer trigolion ar fywyd bob dydd yn Sir Fynwy.

Mae’r Cyngor eisiau clywed gennych am fyw yn Sir Fynwy, eich profiad o’ch ardal leol, eich barn ar wasanaethau’r Cyngor, a sut y gallwn wella pethau i wneud Sir Fynwy yn lle gwell fyth i fyw ynddo.

Bydd yn bosib i drigolion gwblhau’r arolwg rhwng 13eg Medi a’r 31ain Hydref. Mae’n gofyn cwestiynau am ansawdd yr amgylchedd lleol yn ogystal â boddhad gyda gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, ailgylchu, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Mae’r arolwg a gynhelir gan Data Cymru yn rhan o’u Harolwg Preswylwyr Cenedlaethol, a gynlluniwyd i gefnogi Cynghorau lleol i gynyddu eu dealltwriaeth o berfformiad a chanfyddiad.

I gymryd rhan:

Diogelu Data a Chyfrinachedd
Rydym yn cydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol, yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) y Deyrnas Unedig. Bydd gwybodaeth bersonol a roddwch i Gyngor Sir Fynwy yn aros yn gwbl gyfrinachol a bydd ond yn cael ei rhannu gyda Data Cymru at ddibenion yr arolwg hwn. I gael mwy o wybodaeth am breifatrwydd ewch i:
https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2024/09/NRS-Hysbysiad-Preifatrwydd-Medi-2024.docx