A ydych chi’n 50+ ac yn byw yn Sir Fynwy?
Rydym yn ceisio eich adborth i helpu Sir Fynwy ddod yn Gymuned sy’n Oed-gyfeillgar.
Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, cymerwch ran yn ein harolwg a rhannwch eich profiadau a’ch meddyliau ar fywyd bob dydd yn Sir Fynwy.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi wyth maes allweddol sy’n hanfodol i les y boblogaeth 50+. Mae hwn yn gyfle gwych i chi roi eich adborth i ni ar y meysydd hyn.
Y wyth maes mae’r arolwg yn canolbwyntio arni ydy:
- Mannau ac Adeiladau Awyr Agored
- Cludiant
- Tai
- Cyfranogiad Cymdeithasol
- Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol
- Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth
- Cyfathrebu a Gwybodaeth
- Gofal Cymunedol a Gofal Iechyd
Os hoffech drafod yr arolwg neu eich profiadau gyda’n tîm Partneriaethau, byddant yn ymweld â gwahanol leoliadau ym mis Ionawr a mis Chwefror. Mae croeso i chi alw heibio a siarad â nhw.
- Dydd Llun 29/1/24 – Llyfrgell Gilwern
- Dydd Mawrth 6/2/24 – Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Cil-y-coed
- Dydd Mawrth 13/2/24 – Marchnad Y Fenni
- Dydd Mercher 14/2/24 – Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Brynbuga
- Dydd Mawrth 20/24/24 – Llyfrgell a Chanolfan Gymunedol Trefynwy
- Dydd Gwener 23/2/24 – Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Cas-gwent
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen copi papur o’r arolwg, rhowch e-bost i’n tîm ar partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644