Mae cofrestru ar gyfer gwastraff gardd ar gyfer casgliadau 2024 nawr wedi cau.
Casgliad gwastraff gardd yn dod i ben ar 6 Rhagfyr 2024.
Bydd un casgliad ychwanegol rhwng 6ed – 17eg Ionawr 2025 i helpu gyda chasglu cwymp dail a choed Nadolig.
Mae casgliadau gwastraff o’r ardd yn dechrau o’r 4ydd Mawrth. Gwiriwch eich diwrnod casglu
Bydd eich gwasanaeth yn dechrau sr ôl i chi dderbyn eich sticer trwydded (drwy’r post), ac mae’n rhaid rhoi’r sticer ar eich bin. Rhaid i chi ganiatáu 14 diwrnod ar ôl cofrestru i’r bein a’r sticer trwydded eich cyrraedd.
Bydd y Cyngor ond yn casglu gwastraff o’r ardd o’r biniau sy’n arddangos sticer tanysgrifio gwastraff o’r ardd.
Mae Sir Fynwy yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd bob pythefnos gan ddefnyddio biniau olwynion 240 litr.
Bydd pob bin yn cael ei gasglu unwaith bob pythefnos rhwng 4ydd Mawrth 2024 a’r 6ed Rhagfyr 2024.
Bydd un casgliad ychwanegol rhwng 6ed – 17eg Ionawr 2025 i helpu gyda chasglu cwymp dail a choed Nadolig.
Y tâl fesul bin ar gyfer tymor 2024 yw £55.
Or 6 Chwefror 2024 byddwch hefyd yn gallu cofrestru drwy ffonio ein canolfan gyswllt neu yn yr Hybiau Cymunedol.
Rhaid i gwsmeriaid presennol ddefnyddio eu biniau o’r llynedd.
Bydd cwsmeriaid newydd neu’r rhai sy’n archebu mwy o finiau na’r llynedd yn derbyn eu bin(iau) o fewn 14 diwrnod i’w harchebu. Rhaid cofrestru erbyn 17eg Chwefror i sicrhau eich bod yn derbyn eich bin cyn i’r gwasanaeth casglu ddechrau.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer trwydded o fewn 14 diwrnod drwy’r post. Rhaid i chi roi’r sticer trwydded ar eich bin gwastraff o’r ardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni.
Ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd o finiau nad ydynt yn arddangos eu sticer tanysgrifio gwastraff o’r ardd.
Gallwch wirio eich diwrnod casglu ar-lein yn – https://maps.monmouthshire.gov.uk/
Calendr Casglu Gwastraff Gardd 2024
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd 2024
Mae cofrestriadau gwastraff gardd ar gyfer casgliadau 2024 bellach wedi cau.
Bydd angen i chi fewngofnodi i ‘Fy Sir Fynwy’ i dalu am y gwasanaeth gwastraff o’r ardd. Os oeddech yn gwsmer gwastraff o’r ardd y llynedd, bydd gennych gyfrif yn barod.
Os nad oes gennych gyfrif eisoes, bydd angen i chi gofrestru.
Nid yw’n caniatau i mi gofrestru ar Fy Sir Fynwy gyda fy nghyfeiriad e-bost.
Os yw’r neges gwall yn dweud ‘Mae’r cyfeiriad e-bost hwn eisoes yn bodoli’, efallai eich bod eisoes wedi cofrestru gyda ni neu fod y timau gwasanaethau cwsmeriaid wedi’ch cofrestru. I ailosod eich cyfrinair gyda’r cyfeiriad e-bost hwnnw, cliciwch ar y botwm ‘Wedi Anghofio Cyfrinair’ o dan y sgrin mewngofnodi.
Os ydych yn cael trafferth defnyddio Fy Sir Fynwy – gweler ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Fy Sir Fynwy am help – Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Fy Sir Fynwy
Ffyrdd eraill i dalu
Gallwch gofrestru a thalu dros y ffôn drwy ffonio ein canolfan gyswllt ar 01633 644644. Gofynnir i chi nodi fod ein llinellau ffôn brysuraf yn y boreau ac ar ddyddiau Llun.
Gallwch hefyd gofrestru a thalu yn bersonol yn un o’n Hybiau Cymunedol Lleol
2024 Cwestiynau Cyffredin am gasglu gwastraff o’r ardd
Pryd y gallaf gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff o’r ardd yn 2024? ▼
Agorodd y broses gofrestru ar-lein i’r cyhoedd ar 30 Ionawr 2024.
O 6 Chwefror 2024 byddwch hefyd yn gallu cofrestru trwy ffonio ein canolfan gyswllt neu yn yr Hybiau Cymunedol.
Mae cyfnod y gwasanaeth casglu yn dechrau o’r 4ydd Mawrth 2024. Rhaid i chi gofrestru erbyn 17eg Chwefror i fod yn barod ar gyfer eich casgliad cyntaf.
Daw’r cyfnod cofrestru i ben ar 1af Medi 2024.
Pryd fydd fy min yn cael ei ddosbarthu? ▼
Bydd disgwyl i gwsmeriaid presennol sy’n archebu’r un nifer o finiau â’r llynedd ddefnyddio’r biniau sydd ganddynt eisoes.
Bydd cwsmeriaid newydd neu’r rhai sy’n archebu mwy o finiau na’r llynedd yn derbyn eu bin(iau) o fewn 14 diwrnod i’w harchebu. Rhaid cofrestru erbyn 17eg Chwefror i sicrhau eich bod yn derbyn eich bin cyn i’r gwasanaeth casglu ddechrau.
Pryd fydd fy sticer trwydded yn cael ei ddosbarthu a ble ydw i’n ei roi? ▼
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer trwydded o fewn 14 diwrnod drwy’r post. Rhaid i chi roi’r sticer trwydded ar eich bin gwastraff o’r ardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni. Os na fyddwch yn derbyn eich sticer trwydded o fewn 14 diwrnod, cysylltwch â ni.
Rhaid i chi osod y sticer o dan handlen y bin olwynion. Ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd o finiau nad ydynt yn arddangos eu sticer tanysgrifio gwastraff o’r ardd.
Pam nad ydw i wedi derbyn e-bost cadarnhau ar ôl i mi dalu am Wastraff Gardd Werdd? ▼
Efallai bod hwn wedi disgyn i’ch ffolder sothach, ac elly gwiriwch yma yn eich e-byst yn gyntaf.
Byddem hefyd yn awgrymu eich bod yn gwirio eich banc i wneud yn siŵr bod y taliad wedi ei brosesu a chysylltu â ni ar e-bost contact@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644 os nad ydych wedi derbyn cadarnhad e-bost ond wedi gwneud taliad.
A allaf wneud taliad ar ran rhywun arall? ▼
Mae hyn yn bosib ond gwnewch yn siŵr mai’r cyfeiriad dosbarthu yw’r cyfeiriad yr hoffech i Wastraff Gerddi Gwyrdd gael ei gasglu ohono.
Rwy’n cael problemau gyda gwneud taliad ar-lein, beth alla i ei wneud? ▼
Os ydych chi’n derbyn neges gwall yn ystod y broses dalu, gwiriwch gyda darparwr eich cerdyn i sicrhau nad yw’r taliad wedi’i gymryd cyn ceisio eto.
Rydym yn awgrymu rhoi cynnig ar borwr rhyngrwyd gwahanol (e.e. Google Chrome) neu roi cynnig ar gerdyn banc gwahanol.
Os bydd y broblem yn parhau, cysylltwch â ni ar e-bost contact@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644.
Rwyf wedi derbyn derbynneb a fethwyd, beth ddylwn i ei wneud? ▼
Gwiriwch a ydych hefyd wedi derbyn e-bost yn cadarnhau eich taliad; os ydych wedi derbyn cadarnhad ar e-bost, mae eich taliad wedi’i brosesu’n ddiogel.
Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost cadarnhau hwn, gallwch naill ai:
1) Ail-geisiwch y taliad ar-lein.
2) Cysylltwch â ni ar 01633 644644 i gymryd eich taliad dros y ffôn.
3) Ymwelwch ag un o’n Hybiau Cymunedol yn y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent, Cil-y-coed neu Wysg i wneud eich taliad.
Pam fod y pris yn cynyddu? ▼
Mae’n ddrwg gennym roi gwybod i chi am y cynnydd yn y pris. Mae’r tâl am y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd wedi’i gynyddu 10% yn unol â phenderfyniad y Cabinet ym mis Ionawr 2023 i sicrhau bod y gwasanaeth yn adennill costau llawn.
Mae’r model hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth gwastraff o’r ardd yn cael ei ariannu gan y cwsmeriaid sy’n ei ddefnyddio yn hytrach na’r holl drigolion sy’n byw yn y sir. Mae’r cynnydd hwn yn y tâl yn adlewyrchu’r costau uwch a gafwyd yn 2023/24 ar gyfer casglu a gwaredu oherwydd y nifer uwch na’r disgwyl o gwsmeriaid.Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am benderfyniad gwreiddiol y cabinet ym mis Ionawr 2023.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am benderfyniad gwreiddiol y cabinet ym mis Ionawr 2023.
Pam nad yw’r gwasanaeth hwn yn dod o dan daliadau’r dreth gyngor? ▼
Mae casgliadau gwastraff o’r ardd yn wasanaeth casglu gwastraff y codir tâl amdano anstatudol. Gall y gwasanaeth adennill costau llawn casgliadau ond ni ddylai adennill costau ar gyfer yr elfen waredu.
Mae casgliadau gwastraff o’r ardd yn wasanaeth codi tâl anstatudol lle mae preswylwyr yn optio i mewn. Mae nifer o opsiynau ar gael i breswylwyr drin gwastraff o’r ardd nad yw’n optio i mewn, gan gynnwys, compostio cartref (mae CSF yn darparu compostwyr cartref pris cost drwy’r siop ailddefnyddio), danfon deunydd i un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, compostio yn y rhandiroedd sy’n cymryd rhan ac ati.
Faint mae awdurdodau eraill yn ei godi? ▼
Mae rhai Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd am ddim. Dyma lle mae awdurdodau lleol fel arfer yn methu â chyrraedd targedau ailgylchu ac angen y tunelledd gwastraff o’r ardd ychwanegol i gyrraedd y targed sy’n statudol. Mae pob awdurdod yn ariannu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn wahanol ac yn blaenoriaethu cyllid yn seiliedig ar angen ehangach ar draws y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru o blaid codi tâl am gasgliadau gwastraff o’r ardd.
Lle mae awdurdodau lleol yn codi tâl, mae’r tâl yn debyg i Sir Fynwy. Yn 2023/24 y taliadau gwasanaeth oedd: Powys £50, Fforest y Ddena £50, Bryste £50 a Sir Benfro £57 – am gasglu bin 240ltr bob pythefnos. Mae llawer mwy o Awdurdodau Lleol yn adolygu codi tâl am wastraff gardd mewn ymateb i bwysau cyllidebol.
Mae fy min wedi torri ac angen un newydd? ▼
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwastraff o’r ardd 2024 a bod eich bin wedi torri, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi bin newydd i chi. Cysylltwch â ni ar e-bost contact@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644644.
Sut ydw i’n defnyddio’r bin olwynion? ▼
Dylech storio eich bin gwastraff o’r ardd ar eich eiddo. Llenwch ef â gwastraff o’r ardd, sicrhewch fod y caead ar gau. Mae dwy olwyn yn eich bin ar yr un ochr â’r handlen. Gogwyddwch y bin fel ei fod ar y ddwy olwyn a byddwch yn gallu ei symud. Rhowch eich bin wrth ymyl y ffordd cyn 7am ar eich diwrnod casglu. Ar ôl casglu, dychwelwch eich bin i’ch eiddo.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer hawlen o fewn 14 diwrnod drwy’r post. Rhaid i chi roi’r sticer trwydded ar eich bin gwastraff o’r ardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni.
Beth yw maint y bin olwynion? ▼
Y dimensiynau yw: lled 58.2cm (ar yr ymyl uchaf) x dyfnder 72.4cm x 106.6cm uchder cyffredinol (caead ar gau).
Mae gan y biniau olwyn gapasiti o 240 litr.
Mae bin olwynion yn cyfateb i 3 o’r hen fagiau brown (80 litr yr un).
Pryd fydd fy ngwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu? ▼
Bydd pob bin yn cael ei gasglu unwaith bob pythefnos rhwng 4ydd Mawrth 2024 a’r 6ed Rhagfyr 2024.
Gydag un casgliad ychwanegol rhwng 6ed a’r 17eg Ionawr 2025 i helpu gyda chasglu cwymp dail a choed Nadolig.
Gall eich diwrnod casglu newid o’r llynedd. Gallwch wirio eich diwrnod casglu ar-lein yn – https://maps.monmouthshire.gov.uk/
A fyddaf yn cael trwydded i’w osod ar y bin olwynion? ▼
Byddwch – ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn llythyr a sticer hawlen o fewn 14 diwrnod drwy’r post. Rhaid i chi roi’r sticer trwydded ar eich bin gwastraff o’r ardd i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni.
Rhaid i chi osod y sticer o dan handlen y bin olwynion. Ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff o’r ardd o finiau nad ydynt yn arddangos eu sticer tanysgrifio gwastraff o’r ardd.
Beth os na allaf storio bin? ▼
Yn gyffredinol, nid yw bin olwynion yn cymryd mwy o le na bagiau. Os na allwch storio bin olwynion oherwydd nad oes gofod rhwng blaen yr eiddo a’r briffordd gyhoeddus, byddwn yn gweithio gyda’n preswylwyr i sicrhau bod y gwasanaeth dal ar gael iddynt. Cysylltwch â’r Cyngor drwy ffonio: 01633 644644.
Beth os na allaf symud bin? ▼
Gall y biniau fod ar olwynion fel eu bod yn hawdd i breswylwyr eu symud ac nid oes rhaid eu cario na’u codi fel bag. Os nad oes unrhyw aelod o’r cartref yn gallu symud bin olwynion yn gorfforol, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y gwasanaeth yn dal i fod ar gael i chi. Cysylltwch â’r Cyngor drwy ffonio: 01633 644644.
A fydd y gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd yn cael ei gwtogi eto? ▼
Cafodd gwasanaethau allweddol eu blaenoriaethu yn ystod cyfnodau cloi Covid19 gyda’r pwysau ar lefelau staffio. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw’r gwasanaeth gwastraff o’r ardd i redeg fel arfer ond ni ellir gwarantu hyn.
Sut gallaf reoli fy ngwastraff o’r ardd gartref? ▼
Bydd codi uchder torri ar lafnau a thorri gwair yn amlach heb gasglu toriadau gwair yn helpu i wrteithio’r tir a lleihau faint o wastraff sydd angen ei waredu.
Mae compostio cartref yn ddewis hawdd arall ar gyfer delio â thoriadau gwair, dail a thocio gwrychoedd.
Nid oes dim angen bin compost arnoch chi, dim ond ardal fach wedi’i neilltuo ar gyfer tomen gompost syml fydd yn ei wneud. Os yw mewn man heulog, bydd y toriadau gwair yn pydru’n gyflym felly gall hyn fod yn ateb ymarferol tra bod casgliadau gardd yn cael eu gohirio.
Gall tomen gompost gardd fod o fudd i bryfed a bywyd gwyllt ar adeg pan fo natur angen cartref hefyd. Mae darnau gwyllt o laswellt, gwrychoedd a chanopi coed hefyd yn chwarae rhan enfawr yn y frwydr yn erbyn Newid Hinsawdd.
A allaf losgi fy ngwastraff o’r ardd? ▼
Peidiwch â llosgi gwastraff o’r ardd nac unrhyw wastraff arall. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd yn derbyn cynnydd mawr mewn cwynion ac wedi apelio ar drigolion y Sir i fod yn gymdogion da yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae angen amddiffyn pobl sydd â phroblemau anadlol presennol a’r rhai sy’n gwella ar ôl Covid-19 rhag ansawdd aer gwael, gan gynnwys mwg o goelcerthi.
Rheolau casglu
Gwasanaeth gwastraff o’r ardd tymhorol:
Mae’r gwasanaeth gwastraff o’r ardd yn gasgliad tymhorol a bydd yn gweithredu o fis Mawrth tan ddiwedd mis Tachwedd. Bydd 20 casgliad posib yn ystod y tymor. Byddwn yn darparu 1 casgliad ychwanegol ym mis Ionawr i helpu gyda chwymp dail a choed Nadolig.
Rhowch eich biniau allan i’w casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu.
Bydd sticer trwydded yn cael ei anfon atoch ar ôl cofrestru. Rhaid i chi roi’r sticer hwn ar eich bin i ddangos eich bod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth eleni. Os nad oes gennych sticer trwydded, ni fyddwn yn gallu gwagio eich bin.
Rhaid i’r holl wastraff o’r ardd fod y tu mewn i’r bin (nid yn gorlifo).
Ni ddylai’r bin gwastraff o’r ardd fod yn rhy drwm. Bydd yn rhaid i’r gweithiwr gludo’r bin i’r cerbyd casglu. Nid oes terfyn pwysau penodol. Os na all y gweithiwr dynnu’r bin yn ddiogel, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i beidio â gwagio’r bin.
Os yw’r bin wedi’i halogi â’r math anghywir o wastraff (e.e. gwastraff bwyd), mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i beidio â gwagio’r bin.
Derbynnir yr eitemau canlynol yn y bin gwastraff o’r ardd:
Hapus i dderbyn: Dim diolch:
Toriadau gwair pridd, Cerrig, graean a rwbel
Dail a rhisgl Canghennau mawr neu foncyffion dros 2” mewn diamedr
Planhigion, chwyn a blodau wedi’u torri Clymog Japan a Llysiau’r Gingroen
Brigau a changhennau bach hyd at 2” mewn diamedr Gwastraff bwyd
Gwasarn anifeiliaid llysieuol baw cath, ci neu adar
Sut I ddechrau Compostio
Yn ansicr beth i’w wneud â’ch gwastraff o’r ardd?
1. Dechreuwch ei gompostio, nid yw’n cymryd llawer o le, mae’n hawdd ei wneud, a bydd
yn rhoi compost i chi i wasgaru’ch blodau a’ch llysiau, gweler y fideo isod
2. Storiwch ef nes bod casgliadau gwastraff gwyrdd yn ailddechrau
3. Codwch uchder llafnau eich peiriant torri gwair a gorchuddio’r toriadau yn ôl i’r ddaear
yn hytrach na’u casglu
4. Torrwch lai o’ch lawnt os gallwch chi a gadewch iddo dyfu
Ewch ati i Gompostio.
Sut i gompostio gwastraff o’r ardd:
- Crëwch bentwr bach o laswellt, dail a thoriadau gwrychoedd
- Yn ddelfrydol mewn man heulog (fel ei fod yn pydru’n gynt) ac ar bridd
- Trowch yn achlysurol gyda fforc gardd
- Gadewch yr holl wastraff bwyd allan
- Gadewch i’r pryfed fwyta’r gweddill
- Dylai compost fod yn barod ymhen 12 mis
Ac i helpu byd natur yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd hwn
- Gadewch glytiau bach gwyllt yn eich gardd
- Ceisiwch osgoi prynu chwynladdwyr a phlaladdwyr
- Bydd pryfed peillio yn cael eu denu i’ch gardd
- Bydd adar yn dilyn i chwilio am bryfed blasus
- Mae gwrychoedd, llwyni a choed yn darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt
- Bydd gorchudd canopi coed yn helpu i leihau llygredd aer ac effeithiau newid hinsawdd
Cofiwch nad yw natur yn daclus …….ac mae angen natur nawr cymaint ag sydd ei angen arnom ni!
Cyngor gan RHS ar wneud compost: https://www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=444
Cyngor compostio Garden Organic Henry Doubleday: https://www.gardenorganic.org.uk/compost
Mae gan Garden Organic Henry Doubleday set o daflenni adnoddau gyda gwybodaeth ar gyfer dewis y dull compostio cywir ar gyfer eich sefyllfa: https://www.gardenorganic.org.uk/sustainable-communities-resources